Siôr (sant)
Sant Cristnogol yw Siôr (Groeg (iaith): Γεώργιος, Georgios; Lladin: Georgius; hefyd weithiau Siors neu Siorys yn Gymraeg).[1] Dethlir ei ŵyl, Dygwyl Siôr,[2] ar 23 Ebrill (18 Ebrill yn yr Eglwys Goptaidd).[3] Ef yw nawddsant Brasil, Catalwnia, Ethiopia, Georgia, Lloegr, Portiwgal a nifer o lefydd eraill. Ni wyddwn llawer am fywyd y ffigwr hanesyddol Siôr, ond er gwaethaf rhai amheuon credir bellach ei fod wedi bodoli. Daw ei enw o'r gair Groeg ar gyfer ffermwr neu werinwr. Roedd yn ferthyr Cristnogol yn y 3g, ac mae'n debyg iddo farw yn yr ardal o gwmpas Diospolis neu Lydda ym Mhalesteina (bellach Lod, Israel), lle mae'r tystiolaeth cynharaf am ei gwlt. Mae'n bosib mai milwr ym myddin Rhufain oedd Siôr, a daeth i fod yn sant milwrol poblogaidd yn yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol. Yn y traddodiad hwnnw anrhydeddir ef fel megalomartyros ("merthyr mawr").[3] Darluniwyd Siôr fel marchog ar geffyl gwyn yn gorchfygu draig, symbol o ddrygioni. Datblygodd hyn i fod yn chwedl am Siôr yn achub tywysoges oddi wrth y ddraig, a ddaeth yn boblogaidd iawn yng ngwledydd y gorllewin gyda chyhoeddi'r Llith Euraid, casgliad o fucheddau'r seintiau gan Jacobus de Voragine, yn y 13g. Mae'n bosib bod y chwedl am Perseus yn achub Andromeda o grafangau bwystil, mewn lleoliad nid ymhell o Lydda, wedi dylanwadu hefyd ar chwedl Siôr a'r Ddraig.[3] Cynyddodd poblogrwydd cwlt Siôr yng ngorllewin Ewrop yng nghyfnod y Croesgadau. Mabwysiadodd brenhinoedd Lloegr ef yn y 13g, fel y gwnaeth nifer o bŵerau eraill Ewrop megis Aragón, Fenis, Genova a Phortiwgal, oherwydd ei ddelwedd fel y milwr Cristnogol delfrydol.[3] Sefydlwyd Siôr fel nawddsant teyrnas Lloegr ym 1348, pan sefydlwyd Urdd y Gardas Aur gan Edward III; Siôr oedd nawddsant yr urdd sifalrig hwn.[4] Mae baner Lloegr yn seiliedig ar faner y sant. Mae tri murlun canoloesol o Siôr wedi goroesi mewn eglwysi yng Nghymru. Mae'r mwyaf o'r rhain, ac un o'r mwyaf yng ngwledydd Prydain, yn Eglwys Cadog Sant, Llancarfan, Bro Morgannwg.[5]
Eglwysi cysegredig i Siôr yng Nghymru
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia