Llandrillo-yn-Rhos
Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Llandrillo-yn-Rhos,[1][2] weithiau Llandrillo (Saesneg: Rhos-on-Sea). Saif ar arfordir rhyw filltir i'r gorllewin o dref Bae Colwyn, ac erbyn hyn mae i bob pwrpas yn faesdref o'r dref honno. Roedd y boblogaeth yn 2011 yn 7,593.[3] Gerllaw mae Bryn Euryn, lle mae gweddillion bryngaer a atgyfnerthwyd yn yr Oesoedd Canol cynnar, efallai yn oes Maelgwn Gwynedd, a chwarel galchfaen fechan. Gellir gweld gweddillion Llys Euryn, sy'n dyddio o'r 16g ond a adeiladwyd ar safle plas cynharach lle trigai Ednyfed Fychan, distain a phrif gynorthwydd Llywelyn Fawr yn rhan gyntaf y 13g. Ar y traeth islaw Bryn Eurun mae Rhos Fynach, lle adeiladwyd gored bysgota gan fynachod Abaty Aberconwy. Roedd yn cael ei ddefnyddio i bysgota hyd ddechrau'r 20g. Yn ôl un chwedl, o Landrillo y cychwynnodd Madog ar ei fordaith i America. Rhwng Llandrillo a Bae Penrhyn, saif campws Coleg Llandrillo Cymru. Cyfrifiad 2011Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]
Eglwys Sant TrilloDyddia eglwys Llandrillo-yn-Rhos, a gysegrwyd i Sant Trillo, o'r 13g, ac efallai fod cysylltiad ag Ednyfed Fychan. Ger y môr mae Capel Trillo, capel bychan a all fod yn dyddio o'r 6g. Capel Sant TrilloMae Capel bychan Sant Trillo'n dyddio'n ôl i'r 6g ac wedi'i leoli ar safle cyn-Gristnogol: yn union uwch ben ffynnon cysegredig, Celtaidd. Mab Ithel Hael oedd Trillo, mae'n debyg, a cheir eglwysi eraill wedi'u cysegru iddo yn Eryri, pentref Llandrillo, Dinbych a chredir mae o Lydaw y daeth i Gymru. Roedd Trillo'n frawd i Tygai (Llandygái), ac ef a sefydlodd yr eglwys ger y Penrhyn, Bangor. Eu chwaer Llechid a sefydlodd Eglwys Llanllechid uwchlaw'r Penrhyn.
Cyfeiriadau
Trefi a phentrefi
Trefi |
Portal di Ensiklopedia Dunia