Seisyll Bryffwrch
Un o Feirdd y Tywysogion a ganai yn y 12g oedd Seisyll Bryffwrch (fl. 1155 - 1175). Fe'i cofir yn bennaf am yr ymryson barddol rhyngddo â'r pencerdd enwog Cynddelw Brydydd Mawr am fod yn bencerdd yn llys Madog ap Maredudd, tywysog Powys (sylwer, fodd bynnag, fod rhai ysgolheigion yn amau dilysrwydd yr ymryson).[1] BywgraffiadYchydig iawn a wyddom am Seisyll Bryffwrch ar wahân i'r hyn y gellir casglu o dystiolaeth ei gerddi. Mae'n perthyn i'r un cyfnod â Chynddelw Brydydd Mawr. Yn ôl nodyn yn Llawysgrif Hendregadredd, cymerodd ran mewn ymryson â Chynddelw am benceirddiaeth (safle fel pencerdd yn y llys) Madog ap Maredudd, ac felly mae'n bosibl fod ganddo gysylltiadau â Powys (fel Cynddelw yntau). Mae cerdd ymryson ddiweddarach yn honni - yn watwarus - fod tad Seisyll "yn cadw defaid rhwng Gwynedd a Dyfi", h.y. yng nghantref Meirionnydd, ac felly mae'n eithaf posibl ei fod yn frodor o'r ardal honno.[1] CerddiCedwir tair awdl gan Seisyll yn y llawysgrifau: cyfanswm o 115 llinell. Canodd awdl foliant i'r Arglwydd Rhys ap Gruffudd o Ddeheubarth, mab Rhys ap Tewdwr, ac awdlau marwnad i Owain Gwynedd (m. 1175) a Iorwerth Drwyndwn, tad Llywelyn Fawr.[1] Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia