Gruffudd ap Gwrgenau
Roedd Gruffudd ap Gwrgenau (fl. tua 1175 - 1210) yn un o Feirdd y Tywysogion, a gysylltir â Gwynedd.[1] CefndirNi wyddys llawer o gwbl am fywyd y bardd. Ceir yr unig gyfeiriad cyfoes at ŵr o'r cyfnod yn ach teulu o Frycheiniog, lle nodir fod un o'i hynafiaid, Gruffudd ap Gwrgenau, wedi ei eni tua 1170, ond gan fod y bardd yn cael ei gysylltu â Gwynedd mae'n annhebygol mai'r un un ydoedd, er bod yr enw yn un pur anghyffredin.[1] CerddiDim ond dwy gerdd gan Gruffudd ap Gwrgenau sydd wedi goroesi. Mae un ohonynt yn awdl farwnad i Gruffudd ap Cynan ab Owain, arglwydd cantrefi Meirionnydd, Ardudwy a Llŷn (gyda'i frawd Maredudd). Bu farw Gruffudd ap Cynan yn Abaty Aberconwy yn y flwyddyn 1200, yn ôl cofnod ym Mrut y Tywysogion. Mae'n wahanol i farwnadau arferol beirdd y cyfnod am ei fod yn pwysleisio breuder oes dyn ac yn erfyn i Dduw am faddeuant cyn symud i glodfori ei wrhydri a'i haelioni ar nodyn mwy confensiynol.[1] Mae'r ail gerdd yn gyfres fer o englynion yn cofnodi marwolaeth pedwar neu bump o gyfeillion y bardd - yn eu plith y bardd-ryfelwr Gwilym Rhyfel - sydd ar gywair lleddf a dwys. Mae'r gerdd yn perthyn i genre o gerddi i aelodau gosgordd a gyslltir a chanu'r bardd teulu. Unwaith eto ceir pwyslais ar freuder bywyd. Mae oes dyn fel oes drych (yr un mor fregus a diflanedig): Marw Merwydd hirlwydd, a'm hirwlych—dagrau, Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia