Sei Shōnagon
Llenores o Siapan oedd Sei Shōnagon (blodeuai ar ddiwedd y 10g a dechrau'r 11eg). Mae hi'n enwog am ei llyfr Makura no Sōshi ("Llyfr Erchwyn y Gwely" / The Pillow Book) a adnebyddir fel un o glasuron mawr llenyddiaeth Siapan. Ei bywyd![]() Ychydig a wyddys am Sei ar wahân i'r argraffiadau o'i theimladau a'i bywyd personol a geir yn Makura no Sōshi ei hun ac ambell gyfeiriad ati gan yr Arglwyddes Murasaki Shikibu, awdures y nofel hir Genji no Monogatari (Hanes Genji). Roedd hi'n ferch i lywodraethwr rhanbarthol o'r enw Kiyowara Motosuke ac un o ddisgynyddion yr Ymherodr Temmo (630-686). Roedd ei thad a'i thaid yn llenorion. Yn 990 cafodd Sei Shōnagon ei phenodi yn arglwyddes siambr i'r Ymherodres Sadako, prif wraig yr Ymherodr Ichijo Tenno. Mae'n debyg bod Sei, fel nifer o ferched bonheddig eraill, yn byw yn y llys ymherodrol yn Heian Kyo (ar safle Kyoto hedddiw) cyn ei hapwyntiad ; yn sicr bu'n byw yno tan tua 1000 pan gollodd yr Ymherodres Sadako ei lle yn y llys ar ddechrau teyrnasiad Fujiwara no-Michinaga. Dilynodd Sei ei meistres mewn alltudiaeth a diflanodd oddi ar dudalennau hanes. Ei gwaithMae Makura no Sōshi yn llyfr unigryw sy'n anodd ei gategoreiddio. Mewn arddull anecdotal hynod o bersonol mae'n disgrifio bywyd mewnol llys Heian Kyo, ond ceir ynddo hefyd gerddi, rhestrau o hoffbethau a chasbethau, disgrifiadau o natur a synfyfyrio dwys, ynghŷd â phenawdau erotig a disgrifiadau o anturiaethau carwriaethol. Mae'r llyfr yn ddrych i'r llys y'i ysgrifennwyd ynddo ac yn cyfuno soffistigeiddrwydd aruchel ag agwedd ffres, ddiniwedd tuag at natur a phleserau caru cymysg. Sei a MurasakiFel y nodir uchod, roedd yr Arglwyddes Murasaki Shikibu a Sei Shōnagon yn gyfoeswyr yn llys Heian Kyo. Yn Siapan cymherir Murasaki i'r blodeuyn eirin (murasaki) difrycheulyd a Sei i'r blodeuyn ceirios lliwgar ond llai pur. Gwelir y gyferbyniaeth rhwng y ddwy lenores enwog yn eu gwaith a'u cymeriad. Roedd Murasaki yn swil, yn osgoi cymdeithasu arwynebol ac, mae'n debyg, yn dipyn o fursen, ond roedd Sei yn ddi-flewyn ar dafod ac yn byw bywyd i'r eithaf. Er nad yw'n ddiduedd mae'r disgrifiad bachog o Sei a rydd Murasaki yn ei dyddiadur yn werthfawr:
CyfieithiadauNid yw'r Makura no Sōshi wedi ei gyfieithi i'r Gymraeg eto. Y cyfieithiad Saesneg clasurol yw:
Ceir hefyd gyfieithiad mwy cyfoes:
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia