Murasaki Shikibu
Murasaki (紫式部) yw llysenw (murasaki "blodeuyn eirin") llenores o Japan a flodeuai ar ddechrau'r cyfnod Heian (c.973-c.1014). Fe'i hadnabyddir hefyd fel Yr Arglwyddes Murasaki. Roedd hi'n gyfoeswr i'r llenores Sei Shōnagon, awdures Makura no Sōshi (Llyfr Erchwyn y Gwely). Ei brif waith llenyddol yw'r nofel hir Genji no Monogatari (Hanes Genji), sy'n disgrifio hynt a helynt arglwydd ifanc yn y llys ymherodrol yn y brifddinas Heian Kyo a thu hwnt. Fe'i hystyrir yn un o gampweithiau llenyddiaeth Siapaneg. Mae Genji no Monogatari yn nofel estynedig hir iawn, gyda 54 pennawd sy'n rhedeg i o gwmpas 4,500 tudalen printiedig yn yr argraffiad safonol diweddar. Arddull realistig sydd i'r nofel. Ysgrifennodd Murasaki ddyddiadur yn ogystal, Murasaki no Shikibu Nikki. Llyfryddiaeth
|
Portal di Ensiklopedia Dunia