Sarah Williams (Sadie)
Roedd Sarah Williams (Rhagfyr 1837 – 25 Ebrill 1868) yn fardd a nofelydd o dras Gymreig, yn fwyaf enwog fel awdur y gerdd "The Old Astronomer".[1] Cyhoeddodd weithiau byrion ac un casgliad o farddoniaeth yn ystod ei hoes o dan y ffugenwau Sadie a S.A.D.I., Ystyriodd bod Sadie yn rhan o'i henw go iawn yn hytrach nag enw barddol.[2] Ymddangosodd ei hail gasgliad barddoniaeth a nofel a gyhoeddwyd wedi ei marwolaeth o dan ei henw bedydd. BywgraffiadGaned Sadie ym mis Rhagfyr 1837 yn Marylebone, Llundain, yn ferch i Robert Williams (c. 1807-1868), Cymro, o Sir Gaernarfon yn wreiddiol a oedd yn gwerthu hosanau a sidan yn Llundain[3], a'i wraig Seisnig Louisa Ware (c. 1811-1886).[4] [5] Roedd hi'n agos iawn at ei thad ac yn ystyried bod ei doniau barddol yn deillio oddi wrtho ef.[6] Fel plentyn ifanc roedd hi'n methu ynganu 'Sarah', yn anfwriadol rhoddodd y llysenw 'Sadie' iddi ei hun.[2] Roedd hi'n unig blentyn. Cafodd ei haddysgu gartref yn gyntaf gan ei rhieni, ac yn ddiweddarach gan dysgodresau.[6] GweithiauEr mai dim ond hanner Cymraes oedd Sadie a chafodd ei geni yn Llundain ac na fu'n byw erioed y tu allan i'r ddinas, ymgorfforodd ymadroddion a themâu Cymraeg yn ei cherddi. Er enghraifft mae ei cherdd am ei thad ar ei wely angau yn dwyn y teitl O fy Hen Gymraeg [7] ac yn cynnwys y geiriau hynny ar ddiwedd pob pennill. Mae'r gerdd yn terfynu efo'r cwpled: "Gorffwysfa! O Gorffwysfa! (Mewn troednodyn i'r gerdd mae Sadie yn honni bod Handel wedi cael ysbrydoliaeth i'w Corws Haleliwia tra ar daith yng Nghymru a chlywed dychweledigion cyfarfod diwygiad yn llafarganu "Gogoniant Amen"[9]) Roedd hi'n ystyried ei hun ac yn cael ei chyfrif gan eraill, fel bardd Cymreig.[10][11] Bu farw Robert Williams yn sydyn yn Ionawr 1868. Ar adeg marwolaeth ei thad roedd Sadie yn gwybod bod hi'n dioddef o gancr. O dan y loes o golli ei thad gwaethygodd ei chyflwr. [6] Ar y cychwyn bu Sadie yn cuddio ei salwch rhag ei theulu a'i chyfeillion. Wedi iddynt ddod i wybod am gyflwr ei hiechyd rhyw tri mis ar ôl farwolaeth ei thad, cytunodd i gael llawdriniaeth er ei bod yn gwybod y gallai ei lladd. Bu farw yn Kentish Town, Llundain yn ystod llawdriniaeth ar 25 Ebrill 1868. [5] [12] Cyhoeddwyd ei hail lyfr barddoniaeth, Twilight Hours: A Legacy of Verse, ar ddiwedd 1868.[13] Roedd y casgliad yn cynnwys "The Old Astronomer", ei cherdd enwocaf. Mae ail hanner pedwerydd pennill y gerdd yn cael ei dyfynnu’n eang: Though my soul may set in darkness, "Set in Darkness" oedd teitl un o nofelau'r gyfres Inspector Rebus gan yr awdur Albanaidd Ian Rankin. Mae Rankin yn dyfynnu’r llinellau uchod yn rhagymadrodd y llyfr. Ysgrifennwyd "The Old Astronomer" o safbwynt seryddwr oedrannus ar ei wely angau yn gwneud cais i'w fyfyriwr barhau â'i ymchwil diymhongar. Mae'r llinellau wedi'u dewis gan nifer o seryddwyr proffesiynol ac amatur fel eu beddargraffiadau.[5] [15] Cyfeiriadau
Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia