Sarah Bernhardt
Actores o Ffrainc oedd Sarah Bernhardt (22 Hydref 1844 – 26 Mawrth 1923). Daeth yn enwog trwy Ewrop yn y 1870au, ac ymledodd ei henwogrwydd i'r Unol Daleithiau hefyd. Ganed hi yn ninas Paris fel Marie Henriette Bernardt, yn ferch i Julie Bernardt a thad oedd efallai o'r Iseldiroedd. Roedd ei thaid, Moritz Bernardt, yn fasnachwr Iddewig yn Amsterdam. Dechreuodd actio yn 1862 pan oedd yn astudio yn y Comédie-Française. Er mai actio ar y llwyfan yr oedd yn bennaf, gwnaeth nifer o recordiadau o ddialogau o ddramau; y cynharaf oedd darlleniad o Phèdre gan Jean Racine, yng nghartref Thomas Edison yn Efrog Newydd yn y 1880au. Roedd yn un o arloeswyr y ffilmiau distaw, gan berfformio mewn ffilm am y tro cyntaf fel Hamlet mewn ffilm ddau funud o hyd yn 1900. Yn 1905, anafodd ei choes tra'n perfformio yn Rio de Janeiro, ac yn 1915 bu raid torri'r goes ymaith, ond parhaodd i berfformio. Bu farw yn 1923, a chladdwyd hi ym Mynwent Père Lachaise, Paris. Llyfrau ganddi
|
Portal di Ensiklopedia Dunia