Rwmaneg
Rwmaneg (Rwmaneg: română) yw iaith genedlaethol Rwmania a Moldofa. Mae'n perthyn i'r ieithoedd Romáwns yn y teulu Indo-Ewropeaidd o ieithoedd. Mae tua 24 miliwn o bobl yn siarad yr iaith, yn bennaf yn Rwmania. Mae Rwmaneg yn nodweddiadol am fod yn yr unig iaith Romáwns i gadw olion o ogwyddiad Lladin. Mae hi'n iaith sydd wedi'i dylanwadu'n fawr gan yr ieithoedd Slafeg. MoldofegYn ystod y cyfnod Sofietaidd ym Moldofa, cyfeiriwyd at yr iaith frodorol fel Moldofeg (лимба молдовеняскэ) yn hytrach na Rwmaneg, ac fe'i hysgrifennwyd gyda'r wyddor Gyrilig yn hytrach na'r wyddor Ladin. O 1989, yr wyddor Ladin sy'n cael ei defnyddio yn Moldofa fel yn Rwmania, ac fe ddefnyddir y ddau enw, Rwmaneg a Moldofeg, i gyfeirio at yr un iaith. Yn Transnistria er hynny, ble mae'n un o'r ieithoedd swyddogol, enw'r iaith yw Moldofeg, a defnyddir yr wyddor Gyrilig o hyd. Tu hwnt i Rwmania a MoldofaSiaradir Rwmaneg gan leiafrif yn Serbia, er enghraifft yn ardal Vojvodina. Oherwydd mudo, fe'i siaradir hefyd yn Israel, yn ogystal ac yn yr Eidal, Ffrainc, Sbaen, a Portiwgal. Yng nghyfnod Ceaușescu yn Rwmania, daeth llawer o bobl o'r Dwyrain Canol i astudio yn y wlad - mae'n debyg felly fod nifer sydd wedi symud yn ôl i Libanus, Syria, Palesteina, Irac, Yr Aifft, Swdan a Gwlad Iorddonen yn medru'r iaith o hyd. Ymadroddion cyffredin
Argraffiad Rwmaneg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd
|
Portal di Ensiklopedia Dunia