Russell Crowe
Actor, cynhyrchydd ffilm, cyfarwyddwr a cherddor yw Russell Ira Crowe (ganwyd 7 Ebrill 1964). Er ei fod yn ddinesydd Seland Newydd mae wedi treulio rhan fwyaf o'i fywyd yn Awstralia. BywgraffiadGanwyd Crowe ym maestref Strathmore Park yn Wellington, Seland Newydd,[1][2] yn fab i Jocelyn Yvonne (née Wemyss) a John Alexander Crowe,[3] ill dau yn arlwywyr ar setiau ffilm; roedd ei dad hefyd yn rheoli gwesty.[2] Roedd tadcu Crowe ar ochr ei fam, Stan Wemyss, yn sinematografydd a wnaed yn MBE am ffilmio yn yr Ail Ryfel Byd.[4] Roedd tadcu Crowe ar ochr ei dad, John Doubleday Crowe, yn hannu o Wrecsam,[5][6] tra fod hen-hen-famgu ar ochr ei fam yn Māori.[7] Mae gan Crowe deulu o dras Seisnig, Almaenig, Gwyddelig, Eidalaidd, Norwyaidd, Albanaidd, Swedaidd a Chymreig.[8][9][10][11][12]
GyrfaDechreuodd ei yrfa actio ar ddechrau'r 1990au gyda rhannau mewn cyfresi teledu Awstralaidd megis Police Rescue a ffilmiau fel Romper Stomper. Ar ddiwedd y 1990au, dechreuodd ymddangos mewn ffilmiau Americanaidd fel L.A. Confidential. Mae ef wedi cael ei enwebu am dair Oscar ac yn 2001, enillodd Wobr yr Academi am yr Actor Gorau yn y ffilm Gladiator. Mae Crowe hefyd yn gyd-berchennog o dîm y Gynghrair Rygbi Cenedlaethol, y South Sydney Rabbitohs. Ffilmyddiaeth
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia