Gladiator (ffilm)
Mae Gladiator (2000) yn ffilm epig a gyfarwyddwyd gan Ridley Scott, ac sy'n serennu Russell Crowe, Joaquin Phoenix, Connie Nielsen, Oliver Reed, Djimon Hounsou, Derek Jacobi, a Richard Harris. Portreada Crowe y Cadfridog Maximus Decimus Meridius, ffefryn yr Ymerawdwr Marcus Aurelius a fradychir gan ei fab uchelgeisiol, Commodus (Phoenix). Wedi ei ddal a'i garcharu ar ymylon yr Ymerodraeth Rufeinig, dringa Maximus risiau'r arena gladitoraidd er mwyn cael dial am lofruddiaeth ei deulu a'i ymerawdwr. Rhyddhawyd y ffilm yn yr Unol Daleithiau ar y 5ed o Fai, 2000 i adolygiadau canmoladwy. Enillodd bump o Wobrau'r Academi yn 73fed seremoni wobrwyo yr Academi, gan gynnwys y Ffilm Orau a'r Actor Gorau (Crowe). Saethwyd rhannau o'r ffilm yn Aït Benhaddou, Moroco. |
Portal di Ensiklopedia Dunia