Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu)
![]() Bardd ac emynydd Cymraeg oedd Robert Williams, mwy adnabyddus fel Robert ap Gwilym Ddu (6 Rhagfyr 1766 - 11 Gorffennaf 1850).[1] Bywyd a gwaith![]() Ganed ef yn ffermdy'r Betws Fawr ym mhlwyf Llanystumdwy yn Eifionydd. Enw'i fam oedd Jane (neé Parry) a'i dad oedd Williams Williams; roedd ganddo ddwy chwaer ac un brawd a gwyddwn i un o'i chwiorydd symud i Lanbedr ar ôl priodi. Bu'n ffermio yn y "Betws Fawr" am y rhan fwyaf o'i oes. Priododd ferch ifanc o'r enw Catrin Elizabeth pan oedd tua 50 oed, a chafodd un ferch, Jane Elizabeth, ond bu hi farw yn 17 oed yn 1834 o'r diciau (neu y ddarfodigaeth).[2] Mae marwnad ei thad iddi yn adnabyddus. Roedd Robert yn gyfaill i'r bardd Dewi Wyn o Eifion ac i'r pregethwr J. R. Jones, Ramoth.[1] Ystyrir ef yn un o feirdd gorau ei gyfnod yn y mesurau caeth, ac mae nifer o'i emynau yn boblogaidd, yn enwedig "Mae'r gwaed a redodd ar y groes":
Llyfryddiaeth
Gweler hefydCyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia