Richard Myddelton (c. 1508 - 1575)
Gwleidydd o Ddinbych oedd Richard Myddelton (c. 1508 - 1575), a oedd yn fab i Foulk Myddelton, llywiawdwr Castell Dinbych.[1] Yn 1542 etholwyd ef yn Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, dros Sir Ddinbych.[2] Ymfudodd tri o'i feibion, allan o naw, i Lundain, gan chwarae rhan blaenllaw iawn ym musnes a gwleidyddiaeth y ddinas.[3] Dilynodd un ohonynt ei dad yn llywiawdwr Castell Dinbych. Y teuluDaeth enw'r teulu o Robert Myddelton, mab Rhirid ap Dafydd o Benllyn (1393–1396), drwy ei briodas â Cecilia, aeres Syr Alexander Myddleton o Middleton, pentref bychan ym mhlwyf Llanffynhonwen (Saesneg: Chirbury), Swydd Amwythig gan fabwysiadu cyfenw ei wraig. Saif y pentref oddeutu milltir o ffin bresennol Cymru a Lloegr. Bu gan eu disgynyddion swyddi o dan y Goron, yn Sir Ddinbych a symudodd tri o feibion Richard Myddelton (c. 1508-75) i Lundain. Ymhlith y mwayf adnabyddus o'r teulu y mae:
Daeth y llinach wrywaidd i ben yn 1796.[4] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia