Rhyfel Bosnia
Rhyfel rhyngwladol ym Mosnia a Hercegovina a barhaodd o fis Ebrill 1992 i fis Rhagfyr 1995 oedd Rhyfel Bosnia neu Ryfel Bosnia a Hercegovina. Prif frwydrwyr y gwrthdaro oedd lluoedd Gweriniaeth Bosnia a Hercegovina a lluoedd dau endid hunan-ddatganedig o fewn Bosnia a Hercegovina, Republika Srpska (oedd yn cynrychioli Serbiaid Bosniaidd) a Herzeg-Bosnia (oedd yn cynrychioli Croatiaid Bosniaidd). Derbyniodd Republika Srpska gefnogaeth wleidyddol a milwrol sylweddol gan Serbia, a Herzeg-Bosnia cefnogaeth gan Groatia.[1][2][3] Daeth y rhyfel o ganlyniad i chwalu Iwgoslafia. Yn dilyn ymwahaniad Slofenia a Chroatia oddi ar Iwgoslafia ym 1991, pasiwyd refferendwm dros annibyniaeth gan weriniaeth Iwgoslafaidd Bosnia a Hercegovina ar 29 Chwefror 1992. Roedd gan y weriniaeth boblogaeth aml-ethnig, oedd yn cynnwys Bosniaciaid Mwslimaidd (44%), Serbiaid Uniongred (31%), a Chroatiaid Catholig (17%). Boicotwyd y refferendwm gan gynrychiolwyr gwleidyddol Serbaidd-Fosniaidd a gwrthodasant ei ganlyniad, gan sefydlu gweriniaeth eu hunain o'r enw Republika Srpska. Yn dilyn y datganiad annibyniaeth, ymosododd lluoedd Serbaidd-Fosniaidd ar Weriniaeth Bosnia a Hercegovina, gyda chefnogaeth llywodraeth Gweriniaeth Serbia dan Slobodan Milošević a Byddin Pobl Iwgoslafia (JNA), er mwyn sicrháu tiriogaeth Serbaidd. Dechreuodd rhyfel ar draws Bosnia, gyda glanhau ethnig yn erbyn y boblogaeth Fosniac, yn enwedig yn Nwyrain Bosnia.[4] Gwrthdaro tiriogaethol oedd y rhyfel yn bennaf, yn wreiddiol rhwng Byddin Gweriniaeth Bosnia a Hercegovina, y mwyafrif o'i filwyr yn Fosniaciaid, a lluoedd Croataidd-Fosniaidd ar yr un ochr, a lluoedd Serbaidd-Fosniaidd ar yr ochr arall. Bwriadai'r Croatiaid hefyd i sicrháu rhannau o Fosnia a Hercegovina yn diriogaeth Groataidd.[5] Cytunodd yr arweinyddiaeth Serbaidd a Chroataidd i rannu Bosnia gyda chytundebau Karađorđevo a Graz, ac o ganlyniad trodd lluoedd Croataidd yn erbyn Byddin Gweriniaeth Bosnia a Hercegovina gan arwain at y Rhyfel rhwng y Croatiaid a'r Bosniaciaid.[6] Nodweddwyd y rhyfel gan ymladd chwerw, sielio diwahân o ddinasoedd a threfi, glanhau ethnig, trais rhywiol systematig ar raddfa eang, a hil-laddiad. Daeth digwyddiadau megis Gwarchae Sarajevo, gwersyll Omarska, a chyflafan Srebrenica i nodweddu'r gwrthdaro. Er fod y Serbiaid yn wreiddiol yn uwchraddol o ran arfau ac adnoddau o ganlyniad i gefnogaeth y JNA, yn y bôn collasant grym pan ymunodd Bosniaciaid a Chroatiaid yn erbyn Republika Srpska ym 1994 gan greu Ffederasiwn Bosnia a Hercegovina yn sgîl Cytundeb Washington. Yn dilyn cyflafanau Srebrenica a Markale, ymyrrodd NATO yn ystod Ymgyrch Grym Bwriadol ym 1995 yn erbyn Byddin Republika Srpska gan ryngwladoli'r gwrthdaro yn ei gamau olaf.[7] Daeth y rhyfel i ben yn sgîl Cytundeb y Fframwaith Cyffredinol ar gyfer Heddwch ym Mosnia a Hercegovina ym Mharis ar 14 Rhagfyr 1995. Cynhaliwyd trafodaethau heddwch yn Dayton, Ohio, a phenderfynwyd ar Gytundeb Dayton ar 21 Rhagfyr 1995.[8] Yn ôl adroddiad o'r rhyfel a wnaed gan yr Asiantaeth Gwybodaeth Ganolog (CIA) ym 1995, lluoedd Serbaidd oedd yn gyfrifol am 90% o droseddau rhyfel yn ystod y gwrthdaro.[9] Erbyn 2008 cafwyd 45 o Serbiaid, 12 o Groatiaid, a 4 Bosniac yn euog o droseddau rhyfel yn gysylltiedig â Rhyfel Bosnia gan y Tribiwnlys Troseddol Rhyngwladol ar gyfer y cyn-Iwgoslafia.[10] Mae'r ymchwil diweddaraf yn awgrymu bu farw 100,000–110,000 o bobl[11][12][13] a dadleolwyd dros 2.2 miliwn,[14] gan ei wneud yn y gwrthdaro mwyaf ddifrodus yn Ewrop ers diwedd yr Ail Ryfel Byd. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia