Ratko Mladić
Cyn-gadfridog o Serbia o wlad Bosnia yw Ratko Mladić (Serbeg: Ратко Младић, ganwyd 12 Mawrth 1943) a wasanaethodd yn Bennaeth Staff Byddin Republika Srpska yn ystod Rhyfel Bosnia. Ymunodd â Byddin Pobl Iwgoslafia ym 1965, a daeth i sylw'r byd yn ystod Rhyfel Bosnia (1992–95) pan arweiniodd lluoedd Republika Srpska, sef y weriniaeth Serbaidd ethnig yn y wlad a elwir heddiw Bosnia-Hertsegofina. Fel pennaeth y fyddin, roedd ganddo gyfrifoldeb trwy orchymyn dros Warchae Sarajevo (1992–96) a chyflafan Srebrenica.[1] Ym 1995 cafodd ei dditio gan y Tribiwnlys Troseddol Rhyngwladol ar gyfer y cyn-Iwgoslafia (ICTY) am hil-laddiad, troseddau rhyfel, a throseddau yn erbyn dynoliaeth. Wedi'r rhyfel, bu helfa hir i ddal Mladić a throseddwyr honedig eraill o'r rhyfel, gan gynnwys y cyn-arlywydd Republika Srpska Radovan Karadžić.[2][3][4] Cafodd ei arestio gan luoedd diogelwch Serbia ar 26 Mai 2011 yn Lazarevo, Serbia.[5] Cafwyd Mladić yn euog o ddeg allan o'r 11 o gyhuddiadau yn ei erbyn, a'i ddedfrydu i garchar am oes ar 22 Tachwedd 2017.[6] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia