Rhestrau copaon gwledydd Prydain ac IwerddonDyma restrau cydnabyddiedig o copaon gwledydd Prydain yngŷd â'u henwau a'u diffiniadau. Ceir nifer fawr o restrau neu ddosbarthiadau tebyg sy'n categoreiddio mynyddoedd mewn gwahanol ffyrdd megis uchder, amlygrwydd y copa neu gategoriau eraill. Mae llawer o gerddwyr yn ceisio cerdded i ben rhestr gyfan o copaon ac wedi creu cymdeithas o gerddwyr cyffelyb. Munros
Y rhestr cyntaf i gael ei chreu yng ngwledydd prydain oedd y Munros a grewyd yn 1891 gan Syr Hugh Munro, 4ydd Barwn (1856–1919). Galwodd bob copa dros 3000 troedfedd yn yr Alban yn "Funro" a chedwir rhestr gyfoes gan Glwb Mynydda'r Alban. Ceir 283 copa a ddiffinir fel "Munro" a 227 copa atodol. Yr enwocaf o'r math hwn ydy Ben Nevis sy'n 1,344 metr (4,409 tr). Yr AlbanCorbetts
copaon rhwng 2,500 a 3,000 (762.0 a 914.4 m) o droedfeddi ydy'r Corbetts, gydag uchder cymharol o dros 500 troedfedd (152.4 m). Lluniwyd y rhestr yn wreiddiol yn y 1920au gan John Rooke Corbett. Ceir 449 ohonyn nhw. DonaldsPercy Donald a luniodd y Rhestr o gopaon dros 2,000 o droedfeddi (609.6 metr). Dim ond yn iseldiroedd yr Alban mae'r copaon hyn. Mae'r fformiwla sy'n eu diffinio'n eitha cymhleth; mae'n rhaid i'r bryncyn o'r math hwn gael amlgygrwydd o 30 m (98 tr). Ceir 140 Donalds: 89 ohonyn nhw'n fryniau a 51 yn copaon. GrahamsBryniau yn yr Alban o rhwng 2,000 a 2,499 tr (609.6 a 761.7 m), gydag amlygrwydd o 150 m (490 tr). Cyhoeddwyd y rhestr hon yn gyntaf gan Alan Dawson mewn llyfr o'r enw The Relative Hills of Britain ond galwyd y copaon ar ôl Fiona Torbet (née Graham) a luniodd restr debyg tua'r un pryd. Dawson sy'n cynnal y rhestr hyd heddiw (2011), rhestr o 224 bryn wedi'u rhannu fel a ganlyn: Yr Ucheldir i'r de o Great Glen 92; yr Ucheldir i'r gogledd o'r Great Glen 84; Canol a de'r Alban 23; Ynys Skye 10; Mull 7; Harris 3; Jura 2; Arran 1; Rum 1 a de Uist 1. Yn 2004 cyhoeddodd Dawson restr o copaon Grahams (Saesneg: Graham Tops) yn yr Alban i lawr i 610 m o ran uchder a 30 m o ran uchder cymharol. Ceir 777 ohonyn nhw. MurdosMae'r rhain yn debyg iawn i'r Munros ac yn cynnwys holl copaon yr Alban dros 3,000 tr, sydd ag uchder gymharol o dros 30 m (98 tr). Ceir 444 ohonyn nhw ar hyn o bryd (2011). Caiff y rhestr hon ei chynnal gan Alan Dawson. Y tu allan i'r AlbanHewittAcronym yw'r enw hwn o'r Saesneg: The Hewitts are Hills in England, Wales and Ireland over Two Thousand feet (609.6 m). Mae eu huchder cymharol o leiaf 30 metr (98 tr). Ceir 527 Hewitt i gyd: 211 yn Iwerddon, 178 yn LLoegr a 138 yng Nghymru. Yn wreiddiol cyfrifwyd y Mynydd Du yn y ddwy wlad: Cymru a Lloegr ond ers 1997 caiff ei ystyried i fod yng Nghymru'n unig. NuttallMynyddoedd a bryniau dros 2,000 troedfedd (610 m), yng Nghymru a Lloegr ydy Nuttalls. Rhaid iddynt gael uchder cymharol o 15 metr (49 tr) o leiaf. Ceir 443 Nuttall: 253 yn Lloegr a 190 yng Nghymru. Casglwyd y rhestr gan John ac Anne Nuttall a chyhoeddwyd mewn tair cyfrol o'r enw The Mountains of England & Wales. DeweyBryniau a mynyddoedd sydd rhwng 500 metr (1,640 tr) a 609.6 m (2,000 tr) yng Nghymru neu Lloegr yw Dewey; mae'n rhaid i'w huchder cymharol hefyd fod yn fwy na 30 m (98 tr). Caiff y rhestr swyddogol ohonynt ei gadw gan Michael Dewey a'i gyhoeddi yn ei lyfr Mountain Tables. Gwledydd PrydainMarilyns
Bryn neu fynydd ydy Marilyn - wedi'i leoli yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon - a gydag uchder cymharol o o leiaf 150 metr, waeth pa mor uchel ydy'r copa. Bathwyd y term fel gair mwys i gyferbynnu â'r term a ddefnyddir yn yr Alban: Munro. Ceir 2,009 Marilyn: 1,216 yn yr Alban, 455 yn Iwerddon, 176 yn Lloegr, 5 yn Ynys Manaw a 157 yng Nghymru. Casglwyd y rhestr gan Alan Dawson yn ei lyfr 'The Relative Hills of Britain' ond mae'r rhestr hon yn cael ei diweddaru'n aml. HuMPs
Bryn neu fynydd ydy HuMP - wedi'i leoli yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon - a gydag uchder cymharol o o leiaf 100 metr, waeth pa mor uchel ydy'r copa, yn wahanol i Farilyn sydd ag uchder cymharol (neu drop yn Saesneg) o 150m neu fwy. Ceir tua 1,431 ohonyn nhw.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia