Rheilffordd Rhosydd Gogledd Swydd Efrog
Mae'r Rheilfordd Rhosydd Gogledd Swydd Efrog yn rheilffordd dreftadaeth 18 milltir o hyd, rhwng Pickering a Grosmont ym Mharc Genedlaethol Rhosydd Swydd Efrog. Mae rhai o'i threnau'n mynd ymlaen o Grosmont hyd at Whitby. HanesRheilffordd Whitby a PickeringGofynnwyd George Stephenson i ysgryfenni adroddiad ar reilffordd rhwng Whitby a Stockton neu Pickering ym 1832., a cymeradwyodd rheilffordd i Pickering a’r defnydd o geffylau i dynnu trenau[1]. Ffurfiwyd pwyllgor, a phasiwyd deddf ar 6 Mai 1833 i adeiladu Rheilffordd Whitby a Pickering. Y bwriad oedd estyn y rheilffordd o Pickering i Efrog. Prif bwrpas y rheilffordd oedd clydiant o lo, cerrig, pren a chalchfaen[2], ond prynwyd cerbydau ar gyfer teithwyr hefyd. Prynwyd cledrau o weithiau haearn yn Stourbridge, Birmingham, Nantyglo a Bedlington. Agorwyd y lein rhwng Whitby a Tunnel inn (erbyn hyn Gorsaf reilffordd Grosmont) ar 8 Mehefin, 1835. Crëwyd diwydiant newydd oherwydd y rheilffordd, gan gynnwys chwarel yn Lease Rigg, odyn calchfaen yn Grosmont, yn defnyddio calchfaen o Pickering a glo o Whitby. Darganfuwyd haearnfaen tra adeiladu’r rheilffordd, ac agorwyd pyllau yn ymyl Beckhole. Roedd Stephenson peiriannydd y cwmni, a chynlluniodd o’r twnnel gwreiddiol yn Grosmont ar gyfer y lein wreiddiol y defnyddiodd ceffylau. Defnyddir y twnnel hyd at heddiw gan ymwelwyr i’r depo locomotifau.[3] Rheilffordd Efrog a Gogledd CanolbarthRoedd hi’n un o reilffyrdd George Hudson, a daeth Rheilffordd Whitby a Pickering yn rhan ohoni ym 1845, a daeth hi’n haws teithio o bell i Whitby. Ffurfiodd Hudson cwmni i ddatblygu’r dref, ac ailadeiladodd o’r rheilffordd hefyd, yn ei newid o reilffordd drac sengl i un ddwbl. Cyflogwyd y pensaer George Townsend Andrews o Efrog, ac adeiladwyd gorsafoedd newydd yn Whitby, Pickering, Levisham, Goathland, Grosmont, Ruswarp a Sleights, yn ogystal â depo locomotifau newydd yn Whitby, Pickering, Goathland a Beck Hole. Adeiladwyd peiriant stêm ar oleddf Beck Hole, yn disodli sistem dŵr i godi cerbydau..[3] Rheilffordd y Gogledd DdwyrainDaeth y rheilffordd yn rhan Rheilffordd y Gogledd Ddwyrain ym 1854. Cafodd y rheilffordd pwerau i adeiladu lein newydd i orgoi lledf Beckhole yn y 1860au, gan gynnwys gorsaf newydd yn Goathland. Cost y lein oedd £56,000 ac agorwyd y lein ar 1 Gorffennaf, 1865. Adeiladwyd byrdd tro yn Grosmont a Pichering a sawl caban signal (a bythynnod ar gyfer y gweithwyr) yn yr 1870au, wrth greu system ‘block’ ar y lein. Ailadeiladwyd y pontydd ar y lein ym 1908.[3] Rheilffordd Llundain a’r Gogledd DdwyrainDaeth y lein yn rhan o Rheilffordd Llundain a’r Gogledd Ddwyrain ym 1923, hyd at gwladwriaeth y rheilffyrdd ym 1948. Llehawyd gwariant ar weithwyr yn ystod y cyfnod.[3] Rheilffyrdd PrydeinigCafwyd gwared o to’r orsaf yn Pickering ym 1952, ac ym 1958 caewyd depo locomotifau Pickering. Disodlwyd trenau stêm gan trenau diesel ym 1959. Ar ôl yr Adroddiad Beeching ym 1963, caewyd y lein ar 8 Mawrth 1965.[3] AtgyfodiFfurfiwyd cymdeithas ar 18 Tachwedd 1967, a chafwyd caniatâd i wneud gwaith cynnal a chadw, ac i redeg trenau ar gyfer ei hailodaeth. Cyflogwyd un gweithiwr llawn amser ym 1972;erbyn hyn mae 100 o weithwyr llawn amser a thua 50 rhan amser dros yr haf yn ogystal â gwirfoddolwyr. Talwyd rhagdaliad i Reilffordd Brydeinig ar 19 Mai 1969 a rhedodd y trên gyntaf ar gyfer aelodau’r gymdeithas ar 28 Mawrth 1970. Daeth y rheilffordd yn Rheilffordd Ysgafn ym 1971. Aeth y drên stêm gyntaf o Grosmont i Pickering ar 23 Gorffennaf 1971. Daeth y gymdeithas yn ymddiriadolaeth ar 31 Rhagfyr 1971, ac yn elusen ar 14 Chwefror 1972. Defnyddiwyd y depo locomotifau yn Grosmont ym 1973, a dechreuwyd gwasanaethau cyhoeddus rhwng Grosmont a Pickering ar 22 Ebrill 1973. Aeth y trên gyntaf rhwng Whitby a Pickering ar 11 Hydref 1987. Dechreuodd gwasanaeth rheolaidd i Whitby ar 3 Ebrill 2007.[3]
LocomotifauLocomotifau StêmLocomotifau Diesel
Cyfeiriadau
Oriel
Dolenni allanol |
Portal di Ensiklopedia Dunia