Cwmni Beyer Peacock
![]() ![]() Gwneuthurwr locomotifau oedd Cwmni Beyer Peacock a ffurfiwyd gan Charles Frederick Beyer a Richard Peacock ym 1853. Cynlluninwyd eu gweithdy, Ffowndri Gorton ym Manceinion gan Beyer, lle adeiladodd lawer o'r peiriannau. Gwnaed y cwmni'n gwmni cyfyngedig yn 1902 a daeth i ben ym 1966.[1] LocomotifauCwblhawyd ei locomotif cyntaf – un o wyth locomotif 2-2-2 ar gyfer Rheilffordd y Great Western yn ôl cynllun Daniel Gooch, arolygydd locomotifau cyntaf y rheilffordd, ar 21 Gorffennaf 1855, yn costio £2,660. Roedd gan y cwmni berthynas agos efo Charles Beattie, arolygydd locomotifau'r Rheilffordd Llundain a'r De Orllewin.[1] Y Beyer Garratt![]() Dyfeisiwyd y Locomotif Beyer Garratt gan Herbert William Garratt, peiriannydd i lywodraeth De Cymru Newydd ym 1907, ac aeth at y cwmni efo'i syniad. Oherwydd ei waith tramor, a'i farwolaeth ym 1913, gwnaethpwyd y mwyafrif o'r gwaith datblygu gan gwmni Beyer Peacock. Rheilffordd y Trallwng a Llanfair![]() ![]() Adeiladwyd dau locomotif gwreiddiol y rheilffordd, 'Earl' a 'Countess' gan Beyer Peacock, ac maent yn dal i weithio hyd heddiw.[2] Rheilffordd Eryri![]() Mae gan Rheilffordd Eryri bum locomotif Beyer Garratt dosbarth NGG 2-6-2 + 2-6-2, a adeiladwyd ar gyfer rheilffyrdd yn Ne Affrica. Roedd sawl lein o led 2 droedfedd wedi cau, felly cytunwyd y byddai Rheilffordd Swydd Alfred yn atgyweirio a chyflenwi'r locomotifau. Un ohonynt, rhif 143, oedd yr un olaf a adeiladwyd gan gwmni Beyer Peacock.[3] Cyfeiriadau
Llyfryddiaeth
Dolen allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia