Rheilffordd Chwarel y Penrhyn
Roedd Rheilffordd Chwarel y Penrhyn yn rheilffordd oedd yn cysylltu Chwarel y Penrhyn gerllaw Bethesda a dociau Porth Penrhyn gerllaw Bangor. Dechreuodd y rheilffordd fel Tramffordd Llandygai yn 1798. Yn 1801, cymerwyd lle Tramffordd Llandygai gan Reilffordd y Penrhyn, yn dilyn trac gwahanol. Roedd tua 6 milltir o hyd. Adeiladwyd Tramffordd Llandygai, oedd tua milltir o hyd, gan Richard Pennant, Barwn 1af Penrhyn. Roedd yn cludo fflintiau o felin fflintiau ger afon Cegin i Borth Penrhyn. Yn 1801, adeiladwyd rheilffordd i gysylltu Chwarel y Penrhyn a Porth Penrhyn, oedd yn defnyddio ceffylau a disgyrchiant i dynnu'r wagenni. Yn 1878 dechreuwyd defnyddio trenau ager. Caewyd y rheilffordd yn 1962. Mae rhan o'r hen drac yn awr yn ffurfio rhan o Lôn Las Ogwen.
|
Portal di Ensiklopedia Dunia