Rheilffordd cledrau culMae rheilffordd cledrau cul (weithiau rheilffordd gul) yn rheilffordd â chledrau sydd yn agosach at ei gilydd na'r rhai safonol a ddefnyddir gan y mwyafrif o reilffyrdd ym Mhrydain ac mewn mannau eraill yn y byd, sef 1,435 mm (4 tr 81⁄2 mod). Y mesuriadau hyn ydy'r bwlch sydd rhwng y cledrau. Mae'r rhan fwyaf o gledrau cul rhwng 2 dr (610 mm) a 3 tr 6 mod (1,067 mm). TrosolwgPan osodir cledrau cul ar y llawr gyda thro ynddynt, mae'r radiws yn llai na'r tro y gellir ei gael ffurfio gyda chledrau safonol. Mae'r cledrau cul eu hunain hefyd yn pwyso llai, yn cynnwys llai o fetel ynddynt ac yn costio llai. Mae medru troi'n gwneud y system cledrau cul yn llawer mwy hwylus ar gyfer ardaloedd mynyddig neu anodd. Cânt eu defnyddio mewn chwaeli a mannau diwydiannol eraill am yr un rhesymau. Ar y llaw arall, mae gan gledrau safonol y gallu i gludo mwy o lwyth, llwyth trymach ac yn gynt na chledrau cul. Gwledydd PrydainUn o'r rheilffyrdd cyntaf yn y byd oedd Rheilffordd Penydarren, yn Ne Cymru: cledrau cul oedd y system a ddefnyddiwyd yno. Mae'r rheilffordd cludo teithwyr hiraf i'w gael yng Ngogledd Cymru, sef Rheilffordd Eryri a Ffestiniog a oedd yn un, ac a oedd yn mesur 58 km (36 milltir). Fe'i orffenwyd yn 2011 gan godi hyd y linell i 64 km (40 milltir). Pasiwyd deddf i ganiatau i Rheilffordd Talyllyn gludo teithwyr, dyma'r cyntaf i gael ei rhedeg gan wirfoddolwyr yn 1951 ar ôl i'r perchennog, Syr Henry Haydn Jones, farw .[1] Yn groes i reilffyrdd eraill a redir gan wirfoddolwyr, ni fu erioed doriad rhwng gwasanaethau yr hen gwmni a'r rhai a ddarperid o dan y drefn newydd. Mae llawer o'r rheilffyrdd hyn wedi'u hynysu oddi wrth ei gilydd; oherwydd hyn nid oedd yn rhaid i led y cledrau fod yr un faint. Mae Rheilffordd yr Wyddfa yn cael ei chyfri'n reilffordd unigryw ac arbennig iawn oherwydd ei system rack-and-pinion. Rheilffyrdd cledrau cul yng Nghymru
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia