Reginald James Blewitt
Roedd Reginald James Blewitt (26 Mai 1799 - 11 Medi 1878) yn feistr haearn, yn newyddiadurwr ac yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig a gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Sir Fynwy o 1837 hyd 1852. CefndirGanwyd Blewitt yn Marylebone, Llundain yn fab i'r Uwch gapten Edward Blewitt a Amelia (née Durberley) ei wraig[1]. Roedd teulu ei dad yn disgyn oddi wrth deulu dylanwadol Morgan, Tŷ Tredegar, Casnewydd. Cafodd ei addysgu yn Rugby. Priododd Matilda Medex ym 1800. GyrfaYm 1816 dechreuodd prentisiaeth i ddyfod yn gyfreithiwr yng nghwmni William Ford Stevenson, Llundain, bu hefyd am gyfnod yn astudio i fod yn fargyfreithiwr yn Lincoln's Inn ond ni chafodd ei alw i'r bar. Ymddeolodd o fyd y gyfraith ym 1827 [2] wedi ysgrifennu cerdd ddychanol am ymarferion llwgr y Llys Sianseri [3]. Ym 1829 sefydlodd papur newyddion The Monmouthshire Merlin, gan weithio fel ei olygydd am gyfnod o 3 mlynedd. Bu'n is lywodraethwr a Rheolwr Gyfarwyddwr y Monmouthshire and Glamorganshire Banking Company ac yn berchennog gwaith haearn Cwmbrân Gyrfa WleidyddolSafodd Blewitt yn enw'r Blaid Ryddfrydol yn etholiad cyffredinol 1837 yn etholaeth Bwrdeistrefi Sir Fynwy gan lwyddo i gipio'r sedd oddi wrth y Blaid Geidwadol; daliodd ei afael ar y sedd hyd 1851 gan orfod ildio oherwydd trafferthion ariannol[4]. MarwolaethBu farw yn ysbyty meddwl The Priory, Llundain yn 79 mlwydd oed[5] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia