Abaty Llantarnam
Abaty Sistersaidd ger Llanfihangel Llantarnam yn Nhorfaen yw Abaty Llantarnam. Sefydlwyd yr abaty yn 1179 gan fynachod o Abaty Ystrad Fflur dan nawdd Hywel ap Iorwerth, arglwydd Caerllion. Efallai mai yng Nghaerllion y sefydlwyd y fynachlog gyntaf, ond cofnodir ei bod yn Llantarnam erbyn y 13g. ![]() HanesCodwyd yr abaty yn Nant Teyrnon, enw sydd efallai'n gysyltiedig â chymeriad Teyrnon Twrf Fliant, arglwydd Gwent Is Coed yn y chwedl Pwyll Pendefig Dyfed, y gyntaf o'r Pedair Cainc. Roedd yr abad John ap Hywel yn un o brif gefnogwyr Owain Glyn Dŵr; lladdwyd ef ym Mrwydr Pwllmelyn yn 1405. Diddymwyd y fynachlog yn 1536; cofnodwyd yr adeg honno fod yno chwe mynach ac incwm blynyddol o £71. Yn y 1830au, trowyd yr abaty yn blasdy, ac mae'n awr yn gartref i Chwiorydd Sant Joseff. Credir fod y bwâu yn Eglwys Llanfihangel Llantarnam wedi dod o'r abaty. Cyfeiriadau |
Portal di Ensiklopedia Dunia