Rachel Pollack
Awdur ffuglen wyddonol o'r Unol Daleithiau oedd Rachel Pollack (17 Awst 1945 – 7 Ebrill 2023) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei nofelau, ac fel awdur comics a bardd. Mae'n aelod blaenllaw o symudiad ysbrydolrwydd y menywod.[1][2][3][4][5][6] Fe'i ganed yn Brooklyn ac edi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Efrog Newydd a Phrifysgol Claremont. [7][8] Cardiau tarotMae Pollack wedi ysgrifennu llyfr sy'n esbonio pecyn Tarot Salvador Dali, gyda darlun lliw llawn ar bob cerdyn, a sylwebaeth ar y dudalen sy'n wynebu.[9] Mae ei llyfr 78 Degrees of Wisdom on Tarot reading yn cael ei weld fel clasur erbyn heddiw.[10] Creodd ei phecyn tarot ei hun, hefyd, o'r enw Shining Woman Tarot (Shining Tribe Tarot yn ddiweddarach).[11] Bu hefyd yn cynorthwyo i greu'r Vertigo Tarot Deck gyda'r darlunydd Dave McKean a'r awdur Neil Gaiman, ac ysgrifennodd lyfr i gyd-fynd gyda'r pecyn.[12] ComicsMae Pollack yn adnabyddus am ei chyfres o rifynau 64-87 (1993-1995) o'r comig-lyfr Doom Patrol, gan Vertigo DC Comics, sef parhad o gomic o'r 1960au a ddaeth yn ffefryn ac yn gwlt yn ddiweddar dan lygad Grant Morrison. Cymerodd drosodd y gyfres yn 1993 ar ôl cyfarfod â'r golygydd Tom Peyer mewn parti. Yn ystod y cyfnod yma, ymdriniodd Pollack â phynciau anarferol fel y mislif, hunaniaeth rywiol a thrawsrywioldeb. Daeth golygyddiaeth Pollack i ben ddwy flynedd yn ddiweddarach, pan ganslwyd y llyfr. Yn ogystal â Doom Patrol, ysgrifennodd Pollack ryfynau o'r flodeugerdd Vertigo Visions yn cynnwys Brother Power the Geek (1993) a Tomahawk (1998), yr 11fed rhifyn cyntaf o'r bedwaredd gyfrol o New Gods (1995), a'r gyfres pum rhifyn cyfyngedig Breakers Time (1996).[13] Y nofelyddMae tri o nofelau Pollack wedi ennill neu gael eu henwebu ar gyfer gwobrau mawr yn y maes ffuglen wyddonol a ffantasi. Enillodd Unquenchable Fire Wobr Arthur C. Clarke 1989; enillodd Godmother Night Wobr Fantasy y Byd 1997, fe'i rhoed ar restr fer Gwobr James Tiptree, Jr, ac fe'i henwebwyd ar gyfer Gwobr Lambda; ac yn olaf, enwebwyd Asiantaeth Dros Dro ar gyfer Gwobr Nebula 1995 a'r Wobr Mythopoeic, ac fe'i rhoddwyd ar y rhestr fer y Tiptree.[14] Anrhydeddau
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia