Pontygwaith, Merthyr Tudful
Pentref yng nghymuned Treharris, bwrdeisdref sirol Merthyr Tudful, Cymru, yw Pontygwaith. Saif gerllaw Afon Taf. Sefydlwyd gwaith haearn bychan yma gan Anthony Morley yn 1583. Adeiladwyd bythynnod ar ddechrau'r 19g i gartrefu gweithwyr Camlas Morgannwg. Ychydig o'r pentref gwreiddiol sy'n weddill bellach; dymchwelwyd y mwyafrif o adeiladau i wneud lle i'r A470 yn y 1980au.[1] Mae Llwybr Taf yn mynd heibio hen safle'r pentref. Enwir y pentref ar ôl pont yn groesi Afon Taf yma. Y bont gerrig sy'n sefyll yno heddiw a ddisodlodd strwythur pren cynharach ym 1811.[2] Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Dawn Bowden (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Gerald Jones (Llafur).[4] Cyfeiriadau
Trefi a phentrefi
Trefi |
Portal di Ensiklopedia Dunia