Heolgerrig
Pentref bychan yng nghymuned Cyfarthfa, bwrdeisdref sirol Merthyr Tudful, Cymru, yw Heolgerrig.[1][2] Saif yn rhan ogleddol y sir ychydig i'r dwyrain o dref Merthyr Tudful a fe'u gwahenir gan briffordd yr A470. Ymhlith cyfleusterau'r pentref fe geir Ysgol Gynradd Heolgerrig, tafarn Y Llew Coch, Swyddfa Bost a dau gapel. Arferai un o'r capeli, sef Calfaria, fod yn gapel Cymraeg hyd yn weddol ddiweddar, er y ceir gwasanaethau dwyieithog o bryd i'w gilydd. Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Dawn Bowden (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Gerald Jones (Llafur).[4] ![]() Pobl o Heolgerrig
Cyfeiriadau
Trefi a phentrefi
Trefi |
Portal di Ensiklopedia Dunia