Plaid y Ddeddf Naturiol
Roedd Plaid y Ddeddf Naturiol (Saesneg: The Natural Law Party) yn blaid wleidyddol a safai etholiadau yn y Deyrnas Unedig rhwng 1992 a 2003. Sefydlwyd Plaid y Ddeddf Naturiol yn y Deyrnas Unedig ym mis Mawrth 1992. Geoffrey Clements oedd Arweinydd cyntaf y Blaid.[1] Roedd y Blaid yn credu bod pump agwedd allweddol i lywodraeth lwyddiannus, gan gynnwys:
Yn etholiad cyffredinol 1992 safodd y blaid mewn 310 o etholaethau yn y DU gan gasglu 0.19% o'r bleidlais a phob ymgeisydd yn colli ei flaendal etholiadol. Safodd y blaid ymgeiswyr mewn nifer o etholaethau Ewropeaidd ym 1994. Safodd tua dwsin o ymgeiswyr yn enw'r blaid yn etholiad San Steffan 1997 a bu ambell ymgeisydd mewn etholiadau ac is etholiadau eraill heb unrhyw fath o lwyddiant etholiadol. Ers 2003 nid yw Plaid y Ddeddf Naturiol wedi ei gofrestru fel Plaid Gwleidyddol swyddogol yn y DU gyda'r Comisiwn Etholiadol[2]. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia