Pierre Choderlos de Laclos
Llenor o Ffrainc oedd Pierre Ambroise François Choderlos de Laclos (18 Hydref 1741 – 5 Medi 1803), a aned yn Amiens, Ffrainc. Swyddog artileri yn y fyddin Ffrengig oedd Laclos wrth ei alwedigaeth. Roedd yn fab i glerc canolradd yn Amiens lle cafodd ei eni yn 1749. Graddiodd fel swyddog artileri o ysgol filwrol La Fère yn 1763 ond yn yr un flwyddyn arwyddwyd Cytundeb Paris (1763) a ddaeth â heddwch i Ffrainc am 30 mlynedd a chafodd Laclos ei hun mewn sefyllfa diflas o wasanethu mewn garsiynau rhanbarthol heb obaith o ddyrchafiad. Pan ymledodd fflam gwerinaetholdeb trwy Ffrainc adeg y chwyldro yn America yn 1779 ymroddodd Laclos i lenydda. Yn 1782 cyhoeddodd ei waith mwyaf adnabyddus, y nofel epistolaidd Les Liaisons dangereuses, ar ffurf cyfres o lythyrau rhwng Valmont a Madame Merteuil, sy'n portreadu moesau gwyriedig rhai elfennau o'r dosbarth uchel yn Ffrainc yn ail hanner y 18g. Mae ei weithiau eraill yn cynnwys De l'Education des Femmes (1785) a'r feirniadaeth lenyddol ddychanol Lettre à MM. de l'Academie Française sur l'Eloge de Vauban (1786). Yn y flwyddyn honno priododd Marie Duperré, y wraig y byddai'n ffyddlon iddi am weddill ei oes. Yn 1788 cafodd swydd gyda'r Dug Orléans ac aeth efo fo i Lundain yn sgîl Goregyniad y Bastille. Ar ei ddychweliad i Paris bu'n aelod ymroddgar o'r Club des Jacobins. Cafodd ei benodi'n llywodraethwr cyffredinol ar y tiriogaethau Ffengig yn India lle cafodd ei garcharu am gyfnod am ei gefnogaeth i blaid yr Orléanistes. Ar ôl dychwelyd i Ffrainc ymyrodd ei gyfaill Thermidor i achub ei groen yn ystod dyddiau duaf y Chwyldro Ffrengig ac ysgrifennodd draethawd ar ryfel a heddwch, De la Guerre et de la Paix. Bu farw yn 1803 yn Tarento tra'n gwasanaethu fel cadfridog yn yr artileri. Camfernir ei nofel enwog yn aml am fod yn wrth-fenywaidd ond ystyriai Laclos ei fod yn gweithio o blaid benywod mewn cymdeithas ac yn ceisio dyrchafu moes ei oes trwy ddulliau llenyddol arloesol. Yn ei eiriau ei hun,
Llyfryddiaeth
|
Portal di Ensiklopedia Dunia