Picellwr pedwar nod
Gwas neidr o deulu'r Libellulidae ('Y Picellwyr') yw'r Picellwr pedwar nod (Lladin: Libellula quadrimaculata; lluosog: picellwyr pedwar nod). Dyma'r teulu mwyaf o weision neidr drwy'r byd, gyda dros 1,000 o rywogaethau gwahanol. Mae'r Picellwr pedwar nod i'w ganfod yn Ewrop, Asia, a Gogledd America, lle caiff ei adnabod dan yr enw four-spotted skimmer'. Mae'r L. quadrimaculata hefyd i'w gael yng ngwledydd Prydain, gan gynnwys rhannau o Gymru. Hyd ei adenydd yw 48mm ac mae'n hedfan rhwng Ebrill a Medi yng Nghymru a rhwng Mai ac Awst yn Iwerddon. Gwelir yr oedolyn fel arfer ger llwyni, coed, llysdyfiant a phlanhigion eraill ar lanau llynnoedd llonydd a phyllau dŵr. Mae'n cymryd dwy flynedd i'r larfa (neu'r cynrhonyn) aeddfedu i'w llawn dwf. Pryfetach o bob math yw bwyd yr oedolyn.[1] Y Picellwr pedwar nod yw pryfyn cenedlaethol Alaska.[2]
Gweler hefydCyfeiriadau
Dolen allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia