Mursen
Is-Urdd o bryfaid yw'r Fursen sy'n enw benywaidd (sef Is-Urdd y Zygoptera; lluosog: Mursennod), a chyda Gweision y neidr maent yn gwneud yr Urdd Odonata. Caiff ambell fursen ei gamgymeryd yn aml am was y neidr gan eu bod mor debyg, ond mae rhai nodweddion tra gwahanol gan gynnwys y ffaith eu bod yn fyrrach, yn deneuach ac mae'r rhan fwyaf o'u rhywogaethau'n swatio'u hadenydd yn agos i'w corff tra maen nhw'n gorffwyso. Mae pob mursen yn gigysol (neu'n 'rheibus') - yr oedolyn a'r pryf ifanc Mae'r rhai ifanc yn byw mewn dŵr, gyda'r rhan fwyaf o'u rhywogaethau'n byw mewn cynefin dŵr croyw, gan gynnwys mawnog asidig hyd yn oed, llynnoedd, pyllau ac afonydd. Mae'r mursennod ifanc hefyd yn bwrw'u crwyn yn rheolaidd, gyda'r bwriad-croen olaf maen nhw'n dringo allan o'r dŵr ac yn morffio. Mae'r croen ar eu cefnau'n rhwygo ac agorant eu hadenydd, datblygu eu habdomen a thrawsnewid i ffurf oedolyn. Mae eu presenoldeb ar bwll o ddŵr yn arwydd bod y pwll yn eitha glân, heb ei halogi. Grŵp hynafolMae'r fursen yn grŵp hynafol iawn, ac wedi bodoli ers y cyfnod Permaidd, pan oedd tir y Ddaear yn un cyfandir (Pangaea); bellach fe'u ceir ar bob cyfandir, namyn Antartig. Mae'r ffosiliau cynharaf ohonynt yn dyddio'n ôl o leiaf 250 miliwn CP, ond gan mai oedolion yw pob un o'r ffosiliau hyn ni wyddys a oedd y mursennod ifainc, yr adeg honno, yn byw mewn dŵr, ai peidio.[1] DosbarthiadCeir cryn newid gan y gwyddonwyr ar rywogaethau o'r fursen, ac ar hyn o bryd (2015) ystyrir fod deunaw teulu ohonynt:[2]
Mae llinellau toredig yn nodi perthynas sydd heb hyd yma ei phrofi'n llawn. DisgrifiadYn wahanol i was y neidr, mae llygaid cyfansawdd y fursen yn bellach oddi wrth ei gilydd ac yn llai hefyd. Uwch ben y llygaid ceir talcen ac ychydig oddi tano ceir y 'tarian' (neu'r clypeus). Ar frig y pen ceir tri llygad syml (neu ocelli), sydd o bosib yn mesur cryfder golau a cheir pâr o deimlyddion i'w chynorthwyo i fesur cryfder yr aer a'r gwynt.[3] Mursennod Cymru
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia