Silwraidd
Cyfnod daearegol a ddechreuoedd tua 408.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl ac y daeth i ben tua 443.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl yw'r Cyfnod Silwraidd. Roedd yn dilyn y Cyfnod Ordofigaidd a daeth y Cyfnod Defonaidd ar ôl y Cyfnod Silwraidd. Mae'n gyfnod a welodd ddifodiant 60% o anifeiliaid a phlanhigion môr. Disgrifiodd y daearegydd Syr Roderick Murchison y Cyfnod Silwraidd am y tro cyntaf pan gyhoeddodd y llyfr The Silurian System ym 1839, ar ôl gweld creigiau yn Nhraethau Marloes, De Cymru. Enwyd y Cyfnod ar ôl y Silwriaid, llwyth Celtaidd a oedd yn byw yn yr ardal. Yn ystod y Cyfnod Silwraidd roedd Uwchgyfandir Gondwana yn dal i fod yn y de, ond ffurfiodd y cyfandiroedd eraill yr Uwchgyfandir mawr Laurasia. Cwrelau a brachiopodau yw'r ffosilau a geir mewn creigiau o'r Cyfnod Silwraidd. BywydUn o brif nodweddion y cyfnod hwn yw datblygiad esgyrn mewn pysgod. Yn ail, gwelwyd bywyd yn dod i'r lan - ar y tir - mewn ffurfiau fel mwsogl, planhigion fasgwlaidd yn tyfu ar lan llynnoedd nentydd ac arfordiroedd; dyma'r cyfnod hefyd pan welwyd arthropodau ar y tir. Fodd bynnag, mae'n rhaid aros tan y cyfnod Defonaidd cyn gweld esblygiad pellach ar y tir, a'r amrywiaeth enfawr a ddaeth wedi'r cyfnod Silwraidd. EpocauCeir pedair israniad o fewn y cyfnod Silwraidd, a elwir yn 'epocau':
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia