Penmon
Llecyn a phlwyf eglwysig ar gongl de-ddwyreiniol Ynys Môn yw Penmon (Pen 'terfyn, diwedd' + Môn). Mae'n gorwedd i'r gogledd o Fiwmares ac i'r dwyrain o blwyf Llangoed. Mae ei arfordir dwyreiniol yn gorwedd ar Afon Menai. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn rhan o cwmwd Dindaethwy, cantref Menai. Mae'n rhan o gymuned Llangoed a Phenmon. Mae'r ardal yn cynnwys Priordy Penmon, Castell Aberlleiniog, a chymunedau bychain Trecastell ac Aberlleiniog. Trwyn Du yw enw'r penrhyn ar bwynt eithaf Penmon. Ceir goleudy, maes parcio a chaffi yno a chyferbyn mae Ynys Seiriol, gynt yn eiddo i briordy Penmon. Mae yma fynachdy o'r 6g (Priordy Penmon) a gafodd ei ail-adeiladu wedyn yn y 12g. Mae dwy groes Geltaidd yn dyddio o tua'r 10g, oedd yn arfer sefyll y tu allan i'r mynachdy, yn awr i mewn yn yr eglwys. Yn Oes y Tywysogion gorweddai Penmon yng nghwmwd Dindaethwy, cantref Rhosyr. Ger priordy Penmon ceir colomendy i ddal bron i fil o nythod a deiladwyd yn 1600. Adeiladau a chofadeiladauCyfeiriadau
Oriel
|
Portal di Ensiklopedia Dunia