Osian Roberts
Hyfforddwr pêl-droed Cymreig yw Osian Roberts sydd yn is-reolwr Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru[1] ers 21 mis Gorffennaf 2015.[2] Bywyd cynnar ac addysgGanwyd Roberts ar Ynys Môn,[3] a magwyd ef ym Modffordd. Mynychodd Ysgol Gyfun Llangefni.[4] Roedd yn bêl-droediwr talentog ac yn gapten tîm Ysgolion Cymru. Yn 1985 derbyniodd Ysgoloriaeth Pêl-droed, i astudio am radd mewn Addysg Gorfforol ym Mhrifysgol Furman yn Ne Carolina yn yr Unol Daleithiau. TeleduDarlledwyd cyfres ddogfen deledu o'r enw Byd Pêl-droed Osian Roberts ar S4C yn 2014.[5][6] AnrhydeddauAr 17 Gorffennaf 2017 derbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor[7] yr oedd eisoes wedi derbyn Cymrodorion Anrhydeddus gan Brifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.[8] Yn 2017 cafodd ei benodi’n Llywydd Anrhydeddus Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 2017 a chafodd ei urddo i wisg las Gorsedd y Beirdd. LlyfryddiaethYn 2016 cyhoeddwyd ei hunangofiant Môn, Cymru a’r Bêl gan gwmni’r Lolfa [9] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia