Ormskirk
Tref farchnad yng ngorllewin Swydd Gaerhirfryn, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Ormskirk.[1] Fe'i lleolir mewn ardal ddi-blwyf yn ardal an-fetropolitan Bwrdeistref Gorllewin Swydd Gaerhirfryn. Saif 13 milltir (21 km) i'r gogledd o ganol dinas Lerpwl, 11 milltir (18 km) i'r gogledd-orllewin o St Helens, 9 milltir (14 km) i'r de-ddwyrain o Southport a 15 milltir (24 km) i'r de-orllewin o Preston. Mae Caerdydd 233.1 km i ffwrdd o Ormskirk ac mae Llundain yn 296 km. Y ddinas agosaf ydy Lerpwl sy'n 17.4 km i ffwrdd. Daearyddiaeth a gweinyddiaethSafai Ormskirk o'r llethr ar ochr cribyn, mae pwynt uchaf y grib 68 medr uchel lefel y môr, yng nghanol Gwastadedd Arfordirol Swydd Gaerhirfryn,[2] ac mae wedi cael ei disgrifio fel bwrdeistref sydd wedi cael ei chynllunio, gan iddi gael ei gosod allan yn yr 13g.[3] Nid oes gan Ormskirk blwyf ei hunan, ac amgylchynir gan blwyfi Bickerstaffe, Aughton, Scarisbrick, Burscough a Lathom, a thref heb blwyf Skelmersdale.[4] Lleolir y dref yn ardal Gorllewin Swydd Gaerhirfryn ac yn gartref i bencadlys Cyngor Bwrdeistref Gorllewin Swydd Gaerhirfryn. Mae Ormskirk hefyd yn 'dref bost' yn ardal cod post Lerpwl. Gan nad oes gan Ormskirk gyngor plwyf, sefydlwyd cymdeithas wirfoddol yr Ormskirk Community Partnership, yn 2009, gyda chefnogaeth Cyngor Bwrdeistref Gorllewin Swydd Gaerhirfryn, er mwyn rhoi llais i bobl Ormskirk.[5] Mae Ormskirk hefyd yn gartref i Brifysgol Edge Hill.[6] Pobl o nod
Aelodau Seneddol dros Ormskirk
Chwaraewyr pêl-droed
Oriel
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Dinasoedd a threfi
Dinasoedd |
Portal di Ensiklopedia Dunia