Jonathan Pryce
Actor a chanwr o Gymru ydy Syr Jonathan Pryce KBE (ganwyd 1 Mehefin 1947)[1] o Dreffynnon, Sir y Fflint. Ar ôl iddo astudio yn RADA a phriodi'r actores Wyddelig Kate Fahy ym 1974, dechreuodd ei yrfa fel actor llwyfan yn ystod y 1970au. Arweiniodd ei waith yn y theatr iddo dderbyn mwy o rôlau cefnogol mewn ffilmiau ac ar y teledu. Daeth ei berfformiad sgrîn fawr mwyaf arwyddocaol yn ffilm gwlt Terry Gilliam Brazil (1985). Mae Pryce wedi serennu mewn nifer o ffilmiau cyllid uchel, fel Evita, Tomorrow Never Dies, Pirates of the Caribbean a The New World, yn ogystal â phrosiectau annibynnol fel Glengarry Glen Ross a Carrington. Mae ei yrfa ym myd y theatr hefyd wedi bod yn llwyddiannus, gan ennill dwy Wobr Tony - y cyntaf ohonynt ym 1977 am ei berfformiad cyntaf ar Broadway yn "Comedians", a'r ail am ei ran fel "y Peiriannydd" yn y sioe gerdd Miss Saigon. Yn 2015, roedd Pryce yn actor gwadd ar gyfres HBO Game of Thrones yn chwarae'r cymeriad The High Sparrow cyn dod yn actor rheolaidd ar y gyfres yn 2016. Fe'i urddwyd yn farchog yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2021, am wasanaeth i Ddrama a Gwaith Elusennol.[2] Theatr (anghyflawn)
Ffilmiau (anghyflawn)
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia