Ongl sgwâr![]() Mewn geometreg a thrigonometreg, ongl sgwâr (neu yn anaml: 'ongl dde') yw ongl gydag union 90 ° (gradd), sy'n cyfateb i chwarter tro. Os rhoddir pwynt dechreuol pelydryn ar linell syth, a'r onglau cyfagos yn hafal, yna ceir ongl sgwâr.[1][2] Gellir disgrifio gwrthrychau a ffurfiau sy'n cynnwys onglau sgwâr gyda'r ansoddair sgwâr-onglog.[3] Diffiniad o 'ongl' yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru yw: Y gofod rhwng dwy linell neu ddau blân sy'n cyffwrdd; aroledd dwy linell a'i gilydd. Ceir sawl cysyniad geometrig cysylltiedig ag ongl sgwâr, gan gynnwys llinellau perpendicwlar ac orthogonoledd. Mewn gemotreg elfennolMae petryal yn bedair ochr â phedair onglau sgwâr. Mae gan sgwâr bedair onglau sgwâr, yn ogystal ag ochrau hyd cyfartal. Mae'r theorem Pythagorean yn nodi sut i benderfynu pryd mae triongl yn driongl cywir. Symbolau![]() ![]() Mewn Unicode, y symbol ar gyfer ongl sgwâr yw Error using {{unichar}}: Input "221f" is not a hexadecimal value.. Ni ddylid ei gymysgu gyda'r symbol debyg, Error using {{unichar}}: Input "231e" is not a hexadecimal value.. Mae sawl symbol perthynol arall: Error using {{unichar}}: Input "22be" is not a hexadecimal value., Error using {{unichar}}: Input "299c" is not a hexadecimal value., a Error using {{unichar}}: Input "299d" is not a hexadecimal value..[4] Mewn diagramau, dangosir yr ongl sgwâr drwy ddefnyddio sgwâr bychan, fel a welir yn y diagram ar y dde. Mewn rhai gwledydd Ewropeaidd, defnyddir dotyn bychan i'w ddangos.[5] Trosi i unedau eraillGellir nodi ongl sgwâr mewn gwahanol unedau:
Y rheol 3-4-5Bu seiri, seiri maen a phensaeri'n defnyddio'r dull hwn am filoedd o flynyddoedd. Gelwir ef hefyd yn 'ddull Pythagoras (3, 4, 5)'. Yn aml, defnyddiwyd cortyn gyda sawl cwlwm ynddo i greu ongl sgwâr. Byddai tair uned mewn un ochr, union bedair yn yr ail ochor, sy'n creu yr hypotenws, sef y linell hiraf gyferbyn â'r ongl sgwâr, ac sy'n 5 uned o hyd. Y rheol sy'n sail i'r dull hwn (er na wyddai llawer o'r seiri hyn!) yw Theorem Pythagoras "Mae'r sgwâr hypotenws triongl ongl sgwâr yn hafal i swm sgwariau'r ddwy ochr gyfagos." Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia