Llinell
![]() ![]() Mewn mathemateg, cyflwynwyd y syniad o linell neu linell syth gan fathemategwyr ganrifoedd yn ôl i gynrychioli gwrthrychau syth heb fawr o drwch a heb fod yn llinellau crwm. Cynrychiolir gwrthrychau o'r fath gan linell, a wnaed fel arfer, gyda chymorth pren syth, pwrpasol (e.e. y pren mesur). Mae 'llinell' yn enw benywaidd; y lluosog yw 'llinellau'. Mewn mathemateg fodern, mae'r cysyniad o linell wedi'i chysylltu'n agos iawn â geometreg. Er enghraifft, mewn geometreg ddadansoddol, mae llinell yn y plân yn aml yn cael ei diffinio fel y set o bwyntiau y mae eu cyfesurynnau'n bodloni hafaliad llinol penodol, ond mewn cyd-destun mwy haniaethol, megis 'geometreg amlder' (incidence geometry), gall llinell fod yn wrthrych annibynnol, ar wahân i'r set o bwyntiau sy'n gorwedd arni. HanesHyd at 17g, diffiniwyd llinellau yn y modd hwn: "Y linell [syth neu grwm] yw'r enghraifft gyntaf o faint, sydd ag un dimensiwn yn unig, sef hyd, ac heb led na dyfnder iddo, ac nid yw'n ddim byd mwy na phwynt yn llifo neu'n rhedeg..."[1] O fewn geometreg EwclidaiddYn y plân CartesaiddGellir disgrifio llinellau mewn plân Cartesaidd neu mewn cyfesurynnau affin (affine) yn nhermau algebra gyda hafaliadau llinol (linear equations). Mewn dau ddimensiwn, rhoddir yr hafaliad ar gyfer llinellau nad ydynt yn fertigol ar ffurf: ble:
Dynodir goledd neu raddiant y linell drwy bwyntiau a , pan fo , yn cael ei roi gan a gellr sgwennu'r hafaliad am y linell hon fel . Yn , mae pob llinell (gan gynnwys y linell fertigol) yn cael eu disgrifio gan hafaliad llinol ar ffurf gyda chyfernodau real a sefydlog a, b ac c fel bod a a b ddim yn sero. Drwy ddefnyddio'r dull hwn, mae'r llinellau fertigol yn cyfateb i'r hafaliad b = 0. Yn y cyfesurynnau pegynlinolYn y cyfesurynnau pegynlinol (polar coordinates) ar y plân Ewclidaidd gellir mynegi hafaliad y linell fel: ble mae m yn oledd y linell, a b yw'r y-intercept. Pan fo θ = 0 yna bydd y graff yn anniffiniedig. Gellir ailysgrifennu'r hafaliad i ddileu'r diffygion yn y modd hwn: Fel hafaliad fectorGellir mynegi hafaliad fector y linell drwy A a B fel (ble λ yw'r sgalar). Os mai a yw'r fector OA a b yw'r fector OB, yna, gellir sgwennu hafaliad y linell fel: . Gellir disgrifio pelydryn ar bwynt A drwy gyfyngu λ. Ceir un pelydryn os yw λ ≥ 0, a'r belydryn cyferbyn os yw λ ≤ 0. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia