Notre-Dame de Paris
Eglwys gadeiriol ym Mharis yw Notre-Dame de Paris (Ffrangeg: Ein Harglwyddes o Baris). Saif ar ynys o'r enw Île de la Cité yn Afon Seine. Mae'n un o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO. Cychwynnwyd adeiladu'r gadeirlan yn 1160 a roedd y rhan fwyaf wedi ei gwblhau erbyn 1260, er fe'i addaswyd yn aml yn y canrifoedd ers hynny. Yn y 1790au halogwyd yr adeilad yn ystod Chwyldro Ffrainc pan ddinistriwyd neu difrodwyd ei ddelweddau crefyddol. Yn fuan wedi cyhoeddi nofel Victor Hugo Notre-Dame de Paris yn 1831, cododd ddiddordeb cyhoeddus yn yr adeilad unwaith eto. Cychwynnodd gynllun mawr i adfer yr adeilad gan Eugène Viollet-le-Duc yn 1845 a barhaodd am 25 mlynedd. Cafwyd cyfnod arall o lanhau ac adfer yn 1991–2000.[1] Tân 2019Ar brynhawn 15 Ebrill 2019, cychwynnodd tân yn nho'r adeilad a ledodd yn gyflym gan achosi difrod sylweddol. Dinistriwyd y to pren a dymchwelodd y prif feindwr. Gwnaed difrod sylweddol i'r adeilad ond achubwyd y prif strwythur a'r tri ffenest rhosyn enwog wedi eu gwneud o wydr lliw yn dyddio nôl i 1225. Achubwyd nifer fawr o weithiau celf a chreiriau o du fewn y gadeirlan. Dywedodd Arlywydd Macron y byddai Notre-Dame yn cael ei ailadeiladu.[2] O fewn diwrnod, codwyd o leiaf €600m tuag at adfer y gadeirlan.[3] Adnewyddwyd Notre-Dame ac agorodd yr adeilad ar ei newydd wedd ar y 29 o Dachwedd 2024.[4] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia