Neil Warnock
Mae Neil Warnock (ganwyd 1 Rhagfyr 1948) yn rheolwr pêl-droed o Loegr, a reolodd tîm Dinas Caerdydd rhwng 2016 a 2019. Mae ei yrfa fel rheolwr pêl-droed wedi para 35 mlynedd hyd yn hyn. Mae e hefyd yn gyn-chwaraewr pêl-droed, ac yn gweithio fel pyndit ar y teledu ac ar y radio. Mae'n meddu ar y record am y nifer fwyaf o ddyrchafiadau (8) ym mhêl-droed yn Lloegr. Chwaraeodd Warnock fel asgellwr i Chesterfield, Rotherham United, Hartlepool United, Scunthorpe United, Aldershot, Barnsley, York City a Crewe Alexandra, a sgoriodd 36 gôl mewn 327 ymddangosiad cynghrair yn ei yrfa. Ymddeolodd fel chwaraewr yn 30 oed yn 1979 er mwyn dechrau hyfforddi. Gyrfa fel rheolwrDechreuodd Warnock ei yrfa fel rheolwr gyda Gainsborough Trinity (1980-1981) a Burton Albion (1981-1986), cyn iddo ennill dyrchafiad i'r Gynghrair Bêl-droed yn 1987 gyda Scarborough yn ystod ei amser yna (1986-1989). Yna, rheolodd Notts County (1989-1993), a'u harwain nhw o'r Drydedd Gynghrair i'r Gynghrair Gyntaf mewn tymhorau olynol. Ar ôl cyfnod byr gyda Torquay United (1993), symudodd i Huddersfield Town (1993-1995) ac enillodd ddyrchafiad i'r Gynghrair Gyntaf newydd. Ymddiswyddodd ac ymunodd â Plymouth Argyle (1995-1997) a'u harwain nhw at yr Ail Gynghrair. Ar ôl iddo gael ei ddiswyddo, treuliodd amser gyda Oldham Athletic (1997-1998) a Bury (1998-1999). Ym 1999, Ymunodd Warnock â chlwb ei blentyndod, Sheffield United, a'u harwain nhw at rownd gynderfynol Cwpan y Gynghrair a'r Cwpan FA yn 2003, a dyrchafiad i'r Uwchgynghrair yn 2006. Ymddiswyddodd yn 2007 ar ôl i'r clwb ostwng i'r Bencampwriaeth. Rheolodd Crystal Palace rhwng 2007–2010, a'u hachub rhag gostwng i Gynghrair Un. Ymunodd â Queens Park Rangers (2010–2012), ac enillant ddyrchafiad i'r Uwchgynghrair yn 2011. Cafodd ei ymddiswyddo, ac yna ymunodd â Leeds United (2012–2013). Ar ôl iddo gael ei ymddiswyddo gan Leeds roedd e heb glwb am bron i bymtheg mis cyn iddo ddychwelyd i Crystal Palace, a oedd yn yr Uwchgynghrair erbyn hyn, ym mis Awst 2014. Ym mis Rhagfyr 2014, cafodd ei ymddiswyddo gan Crystal Palace ar ôl dechreuad gwael i'r tymor. Ar ôl mis fel rheolwr dros dro gyda Queens Park Rangers, dychwelodd Warnock i Rotherham United fel rheolwr ym mis Chwefror 2016. Clwb pêl-droed Dinas CaerdyddYmunodd Warnock â Dinas Caerdydd ym mis Hydref 2016, a'u harwain at ddyrchafiad i'r Uwchgynghrair yn 2018.[1] Er hynny, disgynnodd y clwb yn ôl i'r Bencampwriaeth y flwyddyn ganlynol. Roedd Warnock eisoes wedi cyhoeddi y byddai'n gadael ar ddiwedd y tymor. Er hynny, wedi dechrau siomedig i ddechrau tymor 2019, gadawodd y clwb ar 11 Tachwedd 2019 [2] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia