Napoleon I, ymerawdwr Ffrainc
Roedd Napoleone Buonaparte (yn wreiddiol, yn Eidaleg a Chorseg) neu Napoléon Bonaparte yn Ffrangeg), neu Napoleon I ar ôl 1804, (15 Awst 1769 – 5 Mai 1821) yn rheolwr Ffrainc o 1799; daeth i gael ei gydnabod fel Ymerawdwr Cyntaf Ffrainc o dan yr enw Napoléon I le Grand (Napoleon I "y Mawr") o 18 Mai 1804 hyd 6 Ebrill 1814, cyfnod pan reolai ran fawr o orllewin a chanolbarth Ewrop yn ogystal â Ffrainc. Apwyntiodd nifer o'i berthnasau, o'r teulu Bonaparte, i reoli fel yn brenhinoedd mewn gwledydd eraill, ond daeth rheolaeth y mwyafrif ohonyn i ben pan gwympodd Napoleon o rym. Bu farw Napoleon ar ynys Saint Helena yn ne Cefnfor Iwerydd. Rhoddir yr enw Rhyfeloedd Napoleon i gyfres o ryfeloedd yn Ewrop rhwng 1804 a 1815. Ymladdwyd y rhyfeloedd rhwng Ffrainc dan Napoleon a nifer o wledydd, yn cynnwys Prydain Fawr, Rwsia, Awstria, Prwsia, Sbaen ac eraill a ffurfiwyd sawl cynghrair gwahanol yn erbyn Napoleon. Ganed Napoleon ar ynys Corsica yn fuan ar ôl iddi gael ei chyfeddiannu gan Deyrnas Ffrainc.[1] Cefnogodd y Chwyldro Ffrengig yn 1789 tra'n gwasanaethu yn y fyddin Ffrengig, a cheisiodd ledaenu ei delfrydau i Gorsica ei wlad enedigol. Cododd yn gyflym yn y Fyddin ar ôl iddo achub le Directoire trwy ymladd yn erbyn y gwrthryfelwyr brenhinol. Ym 1796, dechreuodd ymgyrch filwrol yn erbyn yr Awstriaid a'u cynghreiriaid Eidalaidd, gan sgorio buddugoliaethau pendant a dod yn arwr cenedlaethol. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, arweiniodd ymgyrch filwrol i'r Aifft a'i sbardunodd i afael mewn gwleidyddiaeth. Ef oedd y tu ol i feddiannu grym yn Nhachwedd 1799 a daeth yn Gonswl Cyntaf y Weriniaeth. Roedd gwahaniaethau gyda Phrydain yn golygu bod y Ffrancwyr yn wynebu Rhyfel y Drydedd Glymblaid erbyn 1805. Chwalodd Napoleon y glymblaid hon gyda buddugoliaethau yn Ymgyrch Ulm, ac ym Mrwydr Austerlitz, a arweiniodd at ddiddymu'r Ymerodraeth Rufeinig Sanctaidd. Ym 1806, cymerodd y Bedwaredd Glymblaid arfau yn ei erbyn oherwydd bod Prwsia yn poeni am dwf yn nylanwad Ffrainc ar y cyfandir. Gorchfygodd Napoleon Prwsia ym mrwydrau Jena ac Auerstedt, gorymdeithiodd y Grande Armée i Ddwyrain Ewrop, gorchfygodd y Rwsiaid ym Mehefin 1807 yn Friedland, a gorfodi cenhedloedd gorchfygedig y Bedwaredd Glymblaid i dderbyn Cytundebau Tilsit. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, heriodd yr Awstriaid y Ffrancwyr eto yn ystod Rhyfel y Bumed Glymblaid, ond cadarnhaodd Napoleon ei afael ar Ewrop ar ôl buddugoliaeth ym Mrwydr Wagram. Gan obeithio ymestyn y "System Gyfandirol", sef ei embargo yn erbyn Llywodraeth Prydain, ymosododd Napoleon ar Benrhyn Iberia a datgan ei frawd Joseph yn Frenin Sbaen ym 1808. Gwrthryfelodd y Sbaenwyr a'r Portiwgaliaid yn Rhyfel y Penrhyn, gan arwain at drechu marsialiaid Napoleon. Lansiodd Napoleon ymosodiad ar Rwsia yn ystod haf 1812. Gwelodd yr ymgyrch a ddilynodd enciliad trychinebus Grande Armée Napoleon .ac ym 1813, ymunodd Prwsia ac Awstria â lluoedd Rwsia yn y Chweched Clymblaid yn erbyn Ffrainc. Arweiniodd ymgyrch filwrol anhrefnus at fyddin glymblaid fawr a drechodd Napoleon ym Mrwydr Leipzig yn Hydref 1813. Ymosododd y glymblaid ar Ffrainc a chipio Paris, gan orfodi Napoleon i ildio'i statws yn Ebrill 1814. Alltudiwyd ef i ynys Elba, rhwng Corsica a'r Eidal. Yn Ffrainc, adferwyd y Bourbons i rym. Fodd bynnag, dihangodd Napoleon o Elba yn Chwefror 1815 a chymerodd reolaeth o Ffrainc.[2][3] Ymatebodd y Cynghreiriaid trwy ffurfio Seithfed Clymblaid, a orchfygodd Napoleon ym Mrwydr Waterloo ym Mehefin 1815. Alltudiwyd ef gan y Prydeinwyr i ynys anghysbell Saint Helena yn yr Iwerydd, lle bu farw yn 1821 yn 51 oed. Cafodd Napoleon ddylanwad enfawr ar y byd modern, gan ddod â diwygiadau rhyddfrydol i'r llu o wledydd a orchfygodd, yn enwedig y Gwledydd Isel, y Swistir, a rhannau o'r Eidal modern a'r Almaen. Gweithredodd bolisïau rhyddfrydol yn Ffrainc a Gorllewin Ewrop. Cysylltiad â ChymruYn 1828 llongddryllwyd y llong La Jeune Emma ar draeth Cefn Sidan, ger Llanelli a boddwyd Adeline Coquine, nith 12 oed Josephine de Beauharnais, cyn-wraig Napoleon Bonaparte. Claddwyd hi ym mynwent Pen-bre. Bywyd cynnarRoedd teulu Napoleon o darddiad Eidalaidd. Roedd ei hynafiaid ar ochr ei dad, y Buonapartes, yn ddisgynyddion i deulu bonheddig Tosganaidd llai a ymfudodd i Gorsica yn yr 16g ac roedd ei deulu ar ochr ei fam, y Ramolinos, yn ddisgynyddion i deulu bonheddig mân o Weriniaeth Genoa.[4] Roedd y Buonapartes hefyd yn perthyn trwy briodas i'r Pietrasentasiaid, y Costas, y Paravicciniaid, a Bonellis, a holl deuluoedd Corsica o'r tu fewn.[5] Roedd ei rieni Carlo Maria di Buonaparte a Maria Letizia Ramolino yn cadw hen gartref y teulu o'r enw “Casa Buonaparte” yn Ajaccio. Yno, yn y cartref hwn, y ganwyd Napoleon, ar 15 Awst 1769. Ef oedd pedwerydd plentyn a thrydydd mab y teulu. Roedd ganddo frawd hŷn, Joseph, a brodyr a chwiorydd iau Lucien, Elisa, Louis, Pauline, Caroline, a Jérôme. Bedyddiwyd Napoleon yn Gatholig, dan yr enw Napoleon.[6] Yn ei ieuenctid, sillafwyd ei enw hefyd fel Nabulione, Nabulio, Napoline, a Napulione.[7] Ganed Napoleon yn yr un flwyddyn ag yr ildiodd Gweriniaeth Genoa (cyn dalaith Eidalaidd) ardal Corsica i Ffrainc.[8] Gwerthodd y wladwriaeth yr hawliau sofran flwyddyn cyn ei eni a gorchfygwyd yr ynys gan Ffrainc yn ystod blwyddyn ei eni. Fe'i corfforwyd yn ffurfiol fel talaith yn 1770, ar ôl 500 mlynedd o dan reolaeth Genoa ac 14 mlynedd o annibyniaeth. Ymunodd rhieni Napoleon â gwrthwynebiad Corsica ac ymladd yn erbyn y Ffrancwyr i gadw annibyniaeth, hyd yn oed pan oedd Maria yn feichiog gydag ef. Roedd ei dad yn atwrnai a aeth ymlaen i gael ei enwi'n gynrychiolydd Corsica i lys Louis XVI yn 1777.[9] Dylanwad cryfaf plentyndod Napoleon oedd ei fam, yr oedd ganddi ddisgyblaeth gadarn.[9] Yn ddiweddarach, dywedodd Napoleon, "Mae tynged y plentyn yn y dyfodol bob bob amser yn nwylo'r fam."[10] Priododd mam-gu Napoleon â theulu Fesch y Swistir yn ei hail briodas, a byddai ewythr Napoleon, y cardinal Joseph Fesch, yn cyflawni rôl fel gwarchodwr teulu Bonaparte am rai blynyddoedd. Roedd cefndir bonheddig, gweddol gyfoethog Napoleon yn rhoi mwy o gyfleoedd iddo astudio nag oedd ar gael i Gorsicaniaid nodweddiadol y cyfnod.[11] Pan drodd yn 9 oed symudodd i dir mawr Ffrainc a chofrestru mewn ysgol grefyddol yn Autun yn Ionawr 1779[12][13]. Ym Mai, trosglwyddodd gydag ysgoloriaeth i academi filwrol yn Brienne-le-Château.[14] Yn ei ieuenctid roedd yn genedlaetholwr Corsicaidd di-flewyn-ar-dafod a chefnogodd annibyniaeth y wladwriaeth oddi wrth Ffrainc.[12][15] Fel llawer o Gorsiciaid, roedd Napoleon yn siarad ac yn darllen Corseg (fel ei famiaith) ac Eidaleg (fel iaith swyddogol Corsica).[16][17][18][15] Dechreuodd ddysgu Ffrangeg yn yr ysgol pan oedd tua 10 oed.[16] Er iddo ddod yn rhugl yn Ffrangeg, siaradodd ag acen Corsica nodedig ac ni ddysgodd sut i sillafu'n gywir yn Ffrangeg.[19] O ganlyniad, roedd ei gyd-ddisgyblion yn gwahaniaethu yn erbyn Napoleon oherwydd ei ymddangosiad corfforol a'i acen wahanol.[15] Fodd bynnag, nid oedd yn achos unigol, gan yr amcangyfrifwyd yn 1790 bod llai na 3 miliwn o bobl, allan o boblogaeth Ffrainc o 28 miliwn, yn gallu siarad Ffrangeg safonol, ac roedd y rhai a allai ei hysgrifennu'n gywir yn fach oawn.[20] Bwliwyd Napoleon yn aml gan ei gyfoedion, a'i watwar am ei acen, man geni, ei daldra byr, ei ddifyg moesgarwch a'i anallu i siarad Ffrangeg yn gyflym.[17] Daeth yn fewnblyg ac yn felancolig, a chiliodd at ei lyfrau. Sylwodd arholwr fod Napoleon “bob amser yn dda am fathemateg. Mae'n weddol gyfarwydd â hanes a daearyddiaeth . . . Byddai’r bachgen hwn yn gwneud morwr rhagorol.”[21] Un stori a adroddwyd am Napoleon yn yr ysgol yw ei fod wedi arwain myfyrwyr iau i fuddugoliaeth yn erbyn myfyrwyr hŷn mewn brwydr peli eira, gan ddangos ei allu i arwain.[22] Yn oedolyn ifanc, rhoddodd Napoleon ei fryd ar fod yn awdur; ysgrifennodd hanes Corsica a lluniodd nofel ramantus.[12] Ar ôl cwblhau ei astudiaethau yn Brienne ym 1784, derbyniwyd Napoleon i'r École Militaire ym Mharis. Hyfforddodd i fod yn swyddog magnelau a, phan leihawyd ei incwm, yn dilyn marwolaeth ei dad, fe'i gorfodwyd i gwblhau'r cwrs dwy flynedd mewn blwyddyn.[23] Ef oedd y Corsican cyntaf i raddio o'r École Militaire.[23] Archwiliwyd ef gan y gwyddonydd enwog Pierre-Simon Laplace . [24] Gyrfa gynnarWedi graddio ym Medi 1785, comisiynwyd Bonaparte yn ail raglaw yng nghatrawd magnelau La Fère.[14] Gwasanaethodd yn Valence ac Auxonne tan ar ôl dechrau'r Chwyldro yn 1789. Roedd y dyn ifanc yn dal i fod yn genedlaetholwr Corsican brwd yn ystod y cyfnod hwn[25] a gofynnodd am ganiatâd i ymuno â'i fentor Pasquale Paoli, pan ganiatawyd i'r olaf ddychwelyd i Gorsica gan y Cynulliad Cenedlaethol. Nid oedd gan Paoli unrhyw gydymdeimlad â Napoleon, fodd bynnag, gan ei fod yn ystyried ei dad yn fradwr am iddo adael ei achos dros annibyniaeth Corsica.[26] Treuliodd flynyddoedd cynnar y Chwyldro yng Nghorsica, gan ymladd mewn brwydr dair-ochr gymhleth rhwng y brenhinwyr, y chwyldroadwyr, a chenedlaetholwyr Corsica. Daeth Napoleon, fodd bynnag, i gofleidio delfrydau'r Chwyldro, gan ddod yn gefnogwr i'r Jacobiniaid ac ymuno â Gweriniaethwyr Corsica o blaid Ffrainc a oedd yn gwrthwynebu polisi Paoli a'i ddyheadau o annibyniaeth i Gorsica.[27] Cafodd reolaeth dros fataliwn o wirfoddolwyr a chafodd ei ddyrchafu'n gapten yn y fyddin arferol ym mis Gorffennaf 1792, er iddo fynd y tu hwnt i'w waith pan aeth yn absennol ac arwain grwp o derfysgwyr yn erbyn milwyr Ffrainc.[28] Pan ddatganodd Corsica ymwahaniad ffurfiol oddi wrth Ffrainc a gofyn am amddiffyniad llywodraeth Prydain daeth Napoleon a'i ymrwymiad i'r Chwyldro Ffrengig i wrthdaro â Paoli, a oedd wedi penderfynu difrodi cyfraniad Corsica i'r Exédition de Sardaigne, trwy atal ymosodiad Ffrainc ar y ynys Sardinaidd La Maddalena.[29] Gorfodwyd Bonaparte a'i deulu i ffoi i Toulon ar dir mawr Ffrainc ym Mehefin 1793 oherwydd y rhwyg â Paoli.[30] Er iddo gael ei eni yn "Napoleone Buonaparte", dim ond wedi hyn y dechreuodd Napoleon ddefnyddio'r enw byr "Napoléon Bonaparte" ond ni ollyngodd ei deulu yr enw Buonaparte tan 1796. Y cofnod cyntaf y gwyddys amdano yn arwyddo ei enw fel Bonaparte oedd yn 27 oed (yn 1796).[31][6] Gwarchae ar ToulonYng Ngorffennaf 1793, cyhoeddodd Bonaparte bamffled gweriniaethol o'r enw Le souper de Beaucaire (Swper yn y Beaucaire) a enillodd iddo gefnogaeth Augustin Robespierre, brawd iau yr arweinydd Chwyldroadol Maximilien Robespierre. Gyda chymorth ei gyd-Gorsican Antoine Christophe Saliceti, penodwyd Bonaparte yn uwch ynnwr a phennaeth y magnelau yn y lluoedd gweriniaethol a gyrhaeddodd Toulon ar 8 Medi.[32][33] Creodd gynllun i gipio bryn lle gallai ei fagnelau ddominyddu harbwr y ddinas a gorfodi’r Prydeinwyr i adael. Arweiniodd yr ymosodiad ar y safle at gipio'r ddinas, ond yn ystod y frwydr, clwyfwyd Bonaparte yn ei glun ar 16 Rhagfyr. Cymeradwydwyd ei allu a gosodwyd ef yng ngofal magnelau Byddin Ffrainc yn yr Eidal.[34] Ar 22 Rhagfyr yr oedd ar ei ffordd i'w swydd newydd yn Nice, wedi ei ddyrchafu'n frigadydd-gadfridog yn 24 oed. Dyfeisiodd gynlluniau ar gyfer ymosod ar deyrnas Sardinia fel rhan o ymgyrch Ffrainc yn erbyn y Glymblaid Gyntaf. Gweithredodd byddin Ffrainc gynllun Bonaparte ym Mrwydr Saorgio yn Ebrill 1794, ac yna symud ymlaen i gipio Ormea yn y mynyddoedd. O Ormea, aethant i'r gorllewin i ragori ar safleoedd Awstro-Sardinaidd o amgylch Saorge. Ar ôl yr ymgyrch hon, anfonodd Augustin Robespierre Bonaparte ar genhadaeth i Weriniaeth Genoa i ganfod bwriad y wlad honno tuag at Ffrainc.[35] Oherwydd ei sgiliau technegol, gofynnwyd iddo lunio cynlluniau i ymosod ar safleoedd yr Eidal yng nghyd-destun rhyfel Ffrainc yn erbyn Awstria. Cymerodd ran hefyd mewn alldaith i gymryd Corsica yn ôl oddi wrth y Prydeinwyr, ond gwrthyrrwyd y Ffrancwyr gan y Llynges Frenhinol Brydeinig.[36] Erbyn 1795, roedd Bonaparte wedi dyweddïo â Désirée Clary, merch François Clary. Roedd chwaer Désirée, Julie Clary, wedi priodi brawd hynaf Bonaparte, Joseph.[37] Yn Ebrill 1795, ymunodd a Byddin y Gorllewin, a fu'n ymwneud â Rhyfel y Vendée — rhyfel cartref a gwrth-chwyldro brenhinol yn Vendée, rhanbarth yng ngorllewin canolbarth Ffrainc ar Gefnfor yr Iwerydd. Fel un a oedd yn gyfrifol am filwyr traed, ystyriodd y swydd yn israddol i gadfridog y magnelau a phlediodd afiechyd er mwyn osgoi’r gwaith.[38] Symudwyd ef i Swyddfa Topograffeg Pwyllgor Diogelwch y Cyhoedd, a cheisiodd yn aflwyddiannus am gael ei drosglwyddo i Gaergystennin er mwyn cynnig ei wasanaeth i'r Swltan, Selim III.[39] Yn ystod y cyfnod hwn, ysgrifennodd y nofel ramantus Clisson et Eugénie, am filwr a'i gariad, a oedd yn adlewyrchiad perffaith o berthynas go-iawn Bonaparte â Désirée.[40] Ar 15 Medi, tynnwyd Bonaparte oddi ar restr y cadfridogion a oedd yn gwasanaethu'n rheolaidd am iddo wrthod gwasanaethu yn y Vendée. Roedd yn wynebu sefyllfa ariannol anodd a llai o ragolygon gyrfa.[41] Ar 3 Hydref, datganodd brenhinwyr ym Mharis wrthryfel yn erbyn y Convention nationale (Llywodraeth y Chwyldro Ffrengig).[42] Gwyddai Paul Barras, un o arweinwyr Thermidor, am orchestion milwrol Bonaparte yn Toulon a rhoddodd iddo reolaeth ar y lluoedd i amddiffyn y llywodraeth ym Mhalas Tuileries. Roedd Napoleon wedi gweld cyflafan Gwarchodlu'r Swistir yn y Brenin yno dair blynedd ynghynt a sylweddolodd mai magnelau fyddai'r allwedd i'w hamddiffyn.[14] Gorchmynnodd i swyddog marchfilwyr ifanc o'r enw Joachim Murat atafaelu canonau mawr a'u defnyddio i wrthyrru'r ymosodwyr ar 5 Hydref 1795— 13 Vendémiaire An IV yng Nghalendar y Chwyldroadwyr Ffrengig; bu farw 1,400 o frenhinwyr a ffodd y gweddill.[42] Roedd wedi clirio'r strydoedd gyda chwythiad o "arogl grawnwin", yn ôl yr hanesydd Albanaidd Thomas Carlyle yn ei gyfrol y Chwyldro Ffrengig: A History a gyhoeddwyd mewn tair rhan yn 1837.[43][44] Yn sgil gorchfygu gwrthryfel y brenhinwyr, dilëwyd y bygythiad i'r Confensiwn ac enillodd Bonaparte enwogrwydd sydyn, ac enillodd gyfoeth a nawdd y llywodraeth newydd y Directoire. Priododd Murat ag un o chwiorydd Napoleon, gan ddod yn frawd-yng-nghyfraith iddo; a gwasanaethodd hefyd, yn ddiweddarach, o dan Napoleon fel un o'i gadfridogion. Dyrchafwyd Bonaparte yn Gadlywydd Byddin Ffrainc yn yr Eidal.[30] Ymhen ychydig wythnosau bu'n ymwneud yn rhamantus â Joséphine de Beauharnais, cyn-feistres Barras. Priododd y cwpl ar 9 Mawrth 1796 mewn seremoni sifil.[45] Dau ddiwrnod ar ôl y briodas, gadawodd Bonaparte Baris i gymryd rheolaeth o Fyddin Ffrainc yn yr Eidal. Aeth ati i ymosod yn syth, gan obeithio trechu lluoedd Piedmont cyn y gallai eu cynghreiriaid Awstriaidd ymyrryd. Mewn cyfres o fuddugoliaethau cyflym yn ystod Ymgyrch Montenotte, curodd Piedmont yn llwyr mewn pythefnos cwta. Yna canolbwyntiodd y Ffrancwyr ar yr Awstriaid am weddill y rhyfel, a gorchfygodd Napoleon ym mrwydrau Castiglione, Bassano, Arcole, a Rivoli. Arweiniodd buddugoliaeth bendant Ffrainc yn Rivoli yn Ionawr 1797 at ddymchwel safle Awstria yn yr Eidal. Yn Rivoli, collodd yr Awstriaid hyd at 14,000 o filwyr tra collodd y Ffrancod tua 5,000.[46] Roedd cam nesaf yr ymgyrch yn cynnwys goresgyniad Ffrainc o gadarnleoedd Habsburg. Roedd lluoedd Ffrainc yn Ne'r Almaen wedi cael eu trechu gan yr Archddug Charles ym 1796, ond tynnodd yr Archddug ei luoedd yn ôl i amddiffyn Fienna ar ôl dysgu am ymosodiad Napoleon. Yn y cyfarfod cyntaf rhwng y ddau gadlywydd, gwthiodd Napoleon ei wrthwynebydd yn ôl a symud ymlaen yn ddwfn i diriogaeth Awstria ar ôl ennill ym Mrwydr Tarvis ym mis Mawrth 1797. Dychrynwyd yr Awstriaid gan y gwthiad Ffrengig a gyrhaeddodd yr holl ffordd i Leoben, tua 100 km o Vienna, ac o'r diwedd penderfynodd ofyn am heddwch.[47] Rhoddodd Cytundeb Leoben, a ddilynwyd gan Gytundeb Campo Formio mwy cynhwysfawr, reolaeth i Ffrainc ar y rhan fwyaf o ogledd yr Eidal a'r Gwledydd Isel, ac addawodd cymal cyfrinachol Gweriniaeth Fenis i Awstria. Gorymdeithiodd Bonaparte ar Fenis a gorfodi ei hildio, gan ddod â 1,100 o flynyddoedd o annibyniaeth Fenis i ben. Awdurdododd hefyd y Ffrancwyr i ysbeilio trysorau megis Ceffylau Sant Marc.[48] Ar y daith, bu Bonaparte yn sgwrsio llawer am ryfelwyr megis Alecsander, Cesar, Scipio a Hannibal. Astudiodd eu strategaeth a'i chyfuno â'i strategaeth ei hun. Mewn cwestiwn o Bourrienne, yn gofyn a oedd yn rhoi ei ffafriaeth i Alecsander neu Gesar, dywedodd Napoleon ei fod yn gosod Alecsander Fawr yn y rheng gyntaf oherwydd llwyddiant ei ymgyrch ar Asia.[49] Galluogodd ei ddefnydd o syniadau milwrol confensiynol i sefyllfaoedd yn y byd go iawn ei fuddugoliaethau milwrol, megis defnydd creadigol o fagnelau fel grym symudol i gefnogi ei filwyr traed. Dywedodd yn ddiweddarach: "Dw i wedi ymladd chwe-deg o frwydrau, a dysgais ddiawl o ddim na wyddwn ar y dechrau. Edrych ar Cesar; ymladdodd y cyntaf fel yr olaf."[50] Enillodd Bonaparte ei frwydrau trwy guddio'i filwyr a chanolbwyntio ei luoedd ar "gilfach" ffrynt wanaf y gelyn. Pe na bai'n gallu defnyddio ei hoff strategaeth o amgylchynu, byddai'n cymryd y safle canolog ac yn ymosod ar ddau rym cydweithredol wrth eu colfach, gan siglo rownd i ymladd un nes iddo ffoi, yna troi i wynebu'r llall.[51] Yn yr ymgyrch Eidalaidd hon, daliodd byddin Bonaparte 150,000 o garcharorion, 540 o ganonau, a 170 o gludwyr baner.[52] Ymladdodd byddin Ffrainc 67 gweithred (neu ymladdfa) ac ennill 18 o frwydrau trwy gyfrwng technoleg magnelau uwchraddol a thactegau unigryw Bonaparte.[53] Yn ystod yr ymgyrch, daeth Bonaparte yn gynyddol ddylanwadol yng ngwleidyddiaeth Ffrainc. Sefydlodd ddau bapur newydd: un ar gyfer y milwyr yn ei fyddin ac un arall ar gyfer cylchrediad yn Ffrainc.[54] Ymosododd y brenhinwyr ar Bonaparte am ysbeilio'r Eidal a rhybuddiodd y gallai ddod yn unben.[55] Amcangyfrifir bod lluoedd Napoleon wedi tynnu $45 miliwn mewn arian o'r Eidal yn ystod eu hymgyrch yno, a gwerth $12 miliwn arall mewn metelau a thlysau gwerthfawr. Atafaelodd ei luoedd hefyd fwy na 300 o baentiadau a cherfluniau amhrisiadwy.[56] Anfonodd Bonaparte y Cadfridog Pierre Augereau i Baris i arwain coup d'état a chael gwared ar y brenhinwyr ar 4 Medi - Coup of 18 Fructidor. Gadawodd hyn Barras a'i gynghreiriaid Gweriniaethol i reoli eto, ond yn ddibynnol ar Bonaparte, a aeth ymlaen i drafodaethau heddwch gydag Awstria. Arweiniodd y trafodaethau hyn at Gytundeb Campo Formio, a dychwelodd Bonaparte i Baris yn Rhagfyr fel arwr.[57] Cyfarfu â Talleyrand, Gweinidog Tramor newydd Ffrainc — a wasanaethodd yn yr un modd i'r Ymerawdwr Napoleon — a dechreuasant baratoi ar gyfer goresgyn Lloegr (a alwai ei hun yn 'Prydain').[30] Alldaith EifftaiddAr ôl deufis o gynllunio, penderfynodd Bonaparte nad oedd llynges Ffrainc yn ddigon cryf, eto, i wynebu'r Llynges Frenhinol Brydeinig. Penderfynodd ar daith filwrol i gipio'r Aifft a thrwy hynny danseilio mynediad Prydain i'w diddordebau masnachol yn India.[30] Dymunai Bonaparte sefydlu presenoldeb Ffrengig yn y Dwyrain Canol ac ymuno â Tipu Sultan, Swltan Mysore a oedd yn elyn i'r Prydeinwyr.[58] Sicrhaodd Napoleon ei Lywodraeth “cyn gynted ag y byddai wedi goresgyn yr Aifft, byddai'n sefydlu perthynas â thywysogion India ac, ynghyd â hwy, yn ymosod ar y Saeson yno”.[59] Cytunodd y Directory er mwyn sicrhau llwybr masnach i is-gyfandir India.[60] Ym Mai 1798, etholwyd Bonaparte yn aelod o Academi Gwyddorau Ffrainc (Académie des Sciences). Roedd ei daith Eifftaidd yn cynnwys grŵp o 167 o wyddonwyr, gyda mathemategwyr, naturiaethwyr, cemegwyr, a geodesyddion yn eu plith. Ymhlith eu darganfyddiadau roedd Carreg Rosetta, a chyhoeddwyd eu gwaith yn y Description de l'Égypte yn 1809.[61] Ar y ffordd i'r Aifft, cyrhaeddodd Bonaparte Malta ar 9 Mehefin 1798, a reolir ar y pryd gan Farchogion yr Ysbyty. Ildiodd y Prif Feistr Ferdinand von Hompesch zu Bolheim ar ôl gwrthwynebiad symbolaidd, a chipiodd Bonaparte sylfaen llynges bwysig gan golli dim ond tri dyn.[62] Ni chafodd Bonaparte a'i alldaith eu herlid gan y Llynges Frenhinol a glaniodd yn Alexandria ar 1 Gorffennaf.[30] Ymladdodd Brwydr Shubra Khit yn erbyn y Mamluks, cast milwrol o'r Aifft. Helpodd hyn y Ffrancwyr i ymarfer eu tacteg amddiffynnol ar gyfer Brwydr y Pyramidiau, a ymladdwyd ar 21 Gorffennaf, tua 24 cilometr (15 milltir) o'r pyramidiau. Lladdwyd dau ddeg naw o Ffrancwyr[63] a thua 2,000 o Eifftiaid. Rhoddodd y fuddugoliaeth hon hwb enfawr i forâl byddin Ffrainc.[64] Ar 1 Awst 1798, cipiodd a dinistriodd llynges Prydain (o dan Syr Horatio Nelson) bob un ond dwy o longau llynges Ffrainc ym Mrwydr y Nil, gan drechu nod Bonaparte i gryfhau safle Ffrainc ym Môr y Canoldir.[65] Roedd ei fyddin wedi llwyddo i gynyddu grym Ffrainc dros dro yn yr Aifft, er iddi wynebu gwrthryfeloedd dro ar ôl tro. [66] Yn gynnar yn 1799, symudodd ran o'i fyddin i dalaith Otomanaidd Damascus (Syria a Galilea). Arweiniodd Bonaparte yr 13,000 o filwyr Ffrengig hyn yn y goncwest ar drefi arfordirol Arish, Gaza, Jaffa, a Haifa.[67] Roedd yr ymosodiad ar Jaffa yn arbennig o greulon. Darganfu Bonaparte fod llawer o’r amddiffynwyr yn gyn-garcharorion rhyfel, ar barôl i bob golwg, felly gorchmynnodd i’r garsiwn a 1,400 o garcharorion gael eu dienyddio trwy bidog neu foddi i arebd y bwledi.[65] Cafodd dynion, merched, a phlant eu ladrata a'u llofruddio mewn cyflafan waedlyd dros gyfnod o dridiau.[68] Dechreuodd Bonaparte gyda byddin o 13,000 o wyr; Adroddwyd bod 1,500 ar goll, bu farw 1,200 wrth ymladd, a bu farw miloedd o afiechyd - o'r pla bubonig yn bennaf. Methodd a chipio caer Acre, felly gorymdeithiodd ei fyddin yn ôl i'r Aifft ym Mai. I gyflymu'r enciliad, gorchmynnodd Bonaparte i ddynion oedd yn dioddef o'r pla (rhwng 30 a 580 ohonyn nhw) gael eu gwenwyno ag opiwm.[69] Yn ôl yn yr Aifft ar 25 Gorffennaf, trechodd Bonaparte ymosodiad amffibaidd gan yr Otomaniaid yn Abukir.[70] Rheolwr FfraincTra yn yr Aifft, roedd Bonaparte yn derbyn newyddion am faterion Ewropeaidd. Clywodd fod Ffrainc wedi dioddef cyfres o orchfygiadau yn Rhyfel yr Ail Glymblaid.[71] Ar 24 Awst 1799, manteisiodd ar ymadawiad dros dro llongau Prydeinig o borthladdoedd arfordirol Ffrainc a hwylio i Ffrainc, er gwaethaf y ffaith nad oedd wedi derbyn unrhyw orchmynion penodol gan Baris.[65] Gadawyd y fyddin dan ofal Jean-Baptiste Kléber.[72] Yn anhysbys i Bonaparte, roedd y Directory (y Llywodraeth) wedi ei orchmyn i ddychwelyd i atal ymosodiadau posibl ar Ffrainc, ond roedd llinellau cyfathrebu gwael yn atal y negeseuon hyn rhag cael eu trosglwyddo.[71] Erbyn iddo gyrraedd Paris yn Hydref, roedd sefyllfa Ffrainc wedi gwella trwy gyfres o fuddugoliaethau. Roedd y Weriniaeth, fodd bynnag, yn fethdalwr ac roedd y Directory yn aneffeithiol ac yn amhoblogaidd ymhlith poblogaeth Ffrainc.[73] Roeddent yn trafod fod Bonaparte wedi mynd ar ei liwt ei hun, ond roedden nhw'n rhy wan i'w gosbi.[71] Er gwaethaf rhai methiannau yn yr Aifft, dychwelodd Napoleon i i Ffrainc fel arwr. Lluniodd gynghrair gyda'r cyfarwyddwr Emmanuel Joseph Sieyès, ei frawd Lucien, Llefarydd y Cyngor Pum Cant, Roger Ducos, y cyfarwyddwr Joseph Fouché, a Talleyrand, ac aethant ati i gipio'r aewnau drwy coup d'état ar 9 Tachwedd 1799 ("y 18fed Brumaire" yn ôl calendr y chwyldro), gan ddod a'r Cyngor Pum Cant i ben. Apwyntiwyd Napoleon yn "gonswl cyntaf" a daliodd y swydd am ddeng mlynedd, gyda dau gonswl wedi eu penodi ganddo oedd â lleisiau ymgynghorol yn unig. Cadarnhawyd ei rym gan “Gyfansoddiad y Flwyddyn VIII”, newydd, a ddyfeisiwyd yn wreiddiol gan Sieyès i roi rôl bychan i Napoleon, ond a ailysgrifennwyd gan Napoleon ei hun, a’i dderbyn trwy bleidlais boblogaidd uniongyrchol (3,000,000 o blaid, a 1,567 yn erbyn). Cadwodd y cyfansoddiad ymddangosiad o fod yn weriniaeth ond, mewn gwirionedd, sefydlodd unbennaeth.[74][75] Conswl FfraincSefydlodd Napoleon system wleidyddol a alwodd yr hanesydd Martyn Lyons yn "unbennaeth trwy blebiscite" (neu "unbeniaeth drwy ganiatad y bobl").[76] Poenai am luoedd democrataidd y bobl, a ryddhawyd gan y Chwyldro, ac ni ddymunai eu hanwybyddu, felly aeth Napoleon ati i ymgynghori yn etholiadol reolaidd gyda phobl Ffrainc ar ei ffordd i rym imperialaidd.[76] Drafftiodd Gyfansoddiad y Flwyddyn VIII a sicrhaodd ethol ei hun yn Gonswl Cyntaf, gan fyw yn y Tuileries. Atgyfnerthwyd ei safle y mis Ionawr canlynol, gyda 99.94 y cant wedi'u rhestru'n swyddogol fel rhai a bleidleisiodd "ie".[77] LlyfryddiaethLlyfryddiaeth bywgraffyddol
Ffynonellau cynradd
Hanesyddol
Astudiaethau arbenigol
Gweler hefydCyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia