Moulin Rouge! (ffilm 2001)
Ffilm gerdd a gyfarwyddwyd, cyhyrchwyd ac a ysgrifennwyd ar y cyd gyda Baz Luhrmann yn 2001 ydy Moulin Rouge!. Gan ddilyn egwyddorion The Red Curtain Trilogy, seilir y ffilm ar chwedl Orpheus ac ar opera Giuseppe Verdi, La Traviata. Adrodda'r ffilm hanes bardd/ysgrifennwr Seisnig o'r enw Christian, sy'n cwympo mewn cariad gyda'r actores gabaret Satine sydd yn ddifrifol wael. Defnyddia'r ffilm leoliad cerddorol yr Ardal Montmartre ym Mharis, Ffrainc. Enwebwyd y ffilm am wyth o Wobrau'r Academi, yn cynnwys y Ffilm Orau, yr Actores Orau i Nicole Kidman, ac enillodd dwy Oscar: un am gyfarwyddo creadigol ac un am y gwisgoedd. Dyma oedd y sioe gerdd gyntaf i gael ei henwebu mewn 22 o flynyddoedd. Ffilmiwyd y ffilm yn Stiwdios Fox yn Sydney, Awstralia. |
Portal di Ensiklopedia Dunia