Melin Drafod (corff)
Corff sy'n ymgyrchu dros "annibyniaeth flaengar" i Gymru yw Melin Drafod. Fe'i sefydlwyd yn 2021 gan Colin Nosworthy.[1] Mae'r term melin drafod yn gynnig ar y term "think tank" yn y Saesneg.[2] Bwriad Melin Drafod felly yw bod yn "think tank" i'r mudiad dros annibyniaeth i Gymru.[3] AmcanionSefydlwyd Melin Drafod er mwyn "cefnogi, hwyluso a bod yn gyfaill beirniadol i’r mudiad annibyniaeth ar lawr gwlad". Nid yw'n perthyn i’r un blaid wleidyddol ac mae'n gweithredu’n drawsbleidiol ac yn drawsfudiadol. Mae'n canolbwyntio ar roi sylw manwl i’r cwestiynau sy’n codi yn sgîl y gefnogaeth gynyddol i annibyniaeth. Bu sawl un o'r sefydlwyr ac aelodau Pwyllgor Gwaith yn aelodau blaenllaw o YesCymru, Plaid Cymru, a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg, ac AUOB Cymru. Bwriad y corff yw "hwyluso annibyniaeth flaengar, nid annibyniaeth er lles annibyniaeth yn unig". Mae'n trin a thrafod datrysiadau i argyfyngau mawr o newid hinsawdd a lleiafrifoli ieithoedd, tlodi a hiliaeth yng Nghymru ac yn ryngwladol. Mae'r Melin Drafod o'r farn bod angen paratoi drylwyr ar gyfer Cymru annibynnol gan y bydd, yn eu tŷb hwy, yn gwestiwn yn wynebu Cymru’n hwyr neu’n hwyrach.[3] GweithgareddMae'r Melin Darfod yn cynnal digwyddiadau cyhoeddus megis cynadleddau, sgyrsiau ar-lein a chyhoeddi papurau. Mae hefyd yn weithgar ar y cyfryngau cymdeithasol. Ymsyg ei digwyddiadau cyhoeddus bu Uwchgynhadledd Fawr Annibyniaeth a gynhaliwyd yn Abertawe ym mis Ionawr 2023 oedd yn cynnwys siaradwyr megis Adam Price (Arweinydd Plaid Cymru ar y pryd), Anthony Slaughter (Arweinydd Plaid Werdd yng Nghymru, Rachel Garrick o'r Blaid Lafur a Robin McAlpine o felin drafod annibyniaethol, Common Weal yn yr Alban.[4][5] CyhoeddiadauMae cyhoeddiadau'r Melin Drafod yn cynnwys:
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia