AUOB Cymru
Mae Pawb Dan Un Faner Cymru, neu, gan amlaf dan ei thalfyriad Saesneg, AUOB Cymru (sef All Under One Banner Cymru), yn fudiad sy’n hybu annibyniaeth i Gymru. Cafodd y mudiad ei hysbrydoli gan All Under One Banner yn yr Alban gan gadw'r un enw er mwyn magu perthynas a chydweithio rhwng y gwledydd. Cynhaliwyd eu gorymdaith gyntaf ar y cyd gydag YesCymru yng Nghaerdydd ar 11 Mai 2019, gan ddenu miloedd o gyfranogwyr.[1][2][3] Sefydlydd a phrif lefarydd y mudiad yw Llywelyn ap Gwilym. CenhadaethMae'r mudiad yn un amhleidiol a thrawsbleidiol. Nid yw'n sefyll mewn etholiadau. Yn ôl gwefan y mudiad, dywed AUOB Cymru: "Rydyn ni eisiau gweld Cymru well, dyna pam rydyn ni'n ymladd dros annibyniaeth. I bawb. Os ydych chi'n credu yn yr un pethau, ymunwch â ni yn ein gorymdeithiau pawb dan un faner. Mae dewis arall. Rydyn ni'n grŵp annibyniaeth DIY. Credwn fod gennych y pŵer i wneud gwahaniaeth. Credwn fod gan bawb ran i’w chwarae."[4] Mae'r wefan yn cynnig ffyrdd 'DIY' o drefnu dros annibyniaeth gan gynnwys: gwneud baner, trefnu gorymdaith, gwneud taflen.[5] GorymdeithiauCynhaliwyd gorymdeithiau a gorymdeithiau cychwynnol gyda chefnogaeth ac yn aml dan faner, YesCymru yng Nghaerdydd, Caernarfon a Merthyr Tudful ym mis Mai 2019. [6] Wedi hoe oherwydd Covid-19 cynhaliwyd gorymdaith yn Wrecsam yn 2022.[7] Bu'n rhaid canslo gorymdeithiau dilynol a drefnwyd ar gyfer 2020 oherwydd y pandemig COVID-19.[8][9] Cynhaliwyd gorymdaith gyntaf 2022 yn Wrecsam ar 2 Gorffennaf gyda gorymdaith Caerdydd yn cael ei chynnal ar 1 Hydref.[10] Gweler hefydDolenniCyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia