Meghalaya
Mae Meghalaya yn dalaith fechan yng ngogledd-ddwyrain India. Ystyr yr enw "Meghalaya" yn Hindi a Sanskrit yw "Cartref y Cymylau". Mae'r dalaith tua 300 km o hyd o'r gorllewin i'r dwyrain a thua 100 km o'r gogledd i'r de. Yn 2000 roedd y boblogaeth yn 2,175,000. Mae'r dalaith yn ffinio ar Assam yn y gogledd a Bangladesh yn y de. Shillong yw'r brifddinas, gyda phoblogaeth o 260,000. Mae tua thraean o'r dalaith yn goedwig, sy'n cynnal amrywiaeth ddiddorol o blanhigion, adar ac anifeiliaid. Ffurfiwyd taliaith Meghalaya ar 21 Ionawr 1972 trwy gyfuno dwy ardal oedd cynt yn rhan o dalaith Assam: Bryniau Khasia a Jaintia Unedig a Bryniau Garo. Mae tua 85% o boblogaeth y dalaith yn bobl lwythol; y Khasi yw'r grŵp mwyaf. Cristionogaeth yw'r grefydd fwyaf yn y dalaith, sy'n un o dair talaith yn India lle mae Cristionogion yn y mwyafrif. Meghalaya yw'r dalaith wlypaf yn India, gyda 1200 cm o law y flwyddyn mewn ambell ardal. Tref Cherrapunji ym Mryniau Khasia sy'n dal record y byd am y cyfanswm mwyaf o law mewn mis.
|
Portal di Ensiklopedia Dunia