Jharkhand
Mae Jharkhand (Hindi: झारखंड, Santali:ᱡᱷᱟᱨᱠᱷᱚᱸᱰ, Bengaleg: ঝাড়খণ্ড) yn dalaith yn nwyrain India. Cafodd ei ffurfio allan o ran ddeheuol talaith Bihar ar 15 Tachwedd 2000. Mae Jharkhand yn rhannu ffin â Bihar i'r gogledd, Uttar Pradesh a Chhattisgarh i'r gorllewin, Orissa i'r de, a Gorllewin Bengal i'r dwyrain. Mae 26,909,428 o bobl yn byw yn y dalaith (2001), sy'n ei gwneud y 13eg fwyaf poblog yn India. Hindi yw'r iaith swyddogol. Dinas ddiwydiannol Ranchi yw prifddinas y dalaith a'i dinas fwyaf. Mae dinasoedd a chanolfannau eraill yn cynnwys Jamshedpur, Bokaro, Sindri, Giridih, Gumla, Deoghar, Hazaribagh a Dhanbad (gynt yn rhan o Orllewin Bengal). Yr enw poblogaidd ar Jharkhand yw Vananchal ('gwlad y coed'). Jharkhand yw 28ain talaith India. Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia