Marrakech
![]() Dinas ym Moroco yw Marrakech neu Marrakesh (Amazigh: Murakush, Arabeg: مراكش Murrākush). Mae'n cael ei hadnabod fel y "Ddinas Goch" ac mae'n un o bedair dinas ymherodrol Moroco, gyda Rabat, Meknès a Fes. Mae ganddi boblogaeth o 1,070,838 (2004), ac mae'n brifddinas talaith Marrakech-Tensift-El Haouz, ger troedfryniau Mynyddoedd yr Atlas yn ne canolbarth Moroco. DisgrifiadFel nifer o ddinasoedd yng Ngogledd Affrica a'r Dwyrain Canol, mae Marrakech yn cynnwys hen ddinas gaerog (y medina) a dinas fodern gerllaw (sef y Gueliz neu ville nouvelle). Fe'i gwasanaethir gan Faes Awyr Rhyngwladol Ménara (RAK) a rheilffordd sy'n ei chysylltu â Casablanca a'r gogledd. Marrakech yw'r dryddedd ddinas ym Moroco o ran poblogaeth ar ôl Casablanca a Rabat. Mae Marrakech yn ddinas hanesyddol a ystyrir yn llawer mwy "Affricanaidd" na'r dinasoedd mawr eraill ac a nodweddir gan ei diwylliant Berber. Cafodd ei sefydlu yn 1062 gan y swltan Almoravid Yusuf ibn Tashfin. Tyfodd i fod yn brifddinas economaidd a diwylliannol de Moroco ac am gyfnod yn yr Oesoedd Canol bu'n brifddinas y wlad gyfan hefyd. Ceir y souq (marchnad awyr agored) mwyaf yn y wlad yma ac mae'r ddinas yn enwog hefyd am y Djemaa el Fna, sgwâr mawr agored sy'n fwrlwm o acrobatiaid, diddanwyr, chwedleuwyr a cherddorion o fore tan nos pryd mae'n troi'n fath o fwyty fawr agored gyda nifer o stondinau bwyd. Mae medina Marrakech yn Safle Treftadaeth y Byd ar restr UNESCO. Ceir sawl parc a gardd yn y ddinas, yn cynnwys Gardd Majorelle a Gerddi Menara. Llywodraeth leolMarrakech yw prifddinas a chanolfan weinyddol talaith Marrakech-Tensift-El Haouz. Rheolir Marrakech gan Gyngor Dinas o 80 o gynrychiolwyr etholedig. Yn haf 2009, enillodd dinas Marrakech le yn hanes merched Moroco pan etholodd cyfarfod llawn o'r cyngor Mme Fatima Zohra El Mansouri yn faer: dyma'r tro cyntaf i ferch ddod yn faer yn hanes Moroco gyfan.[1]
Panorama o'r Djemma el Fna Enwogion
GefeillddinasoeddCyfeiriadau
Dolenni allanol |
Portal di Ensiklopedia Dunia