Gerddi Menara
Lleolir Gerddi Menara i'r gorllewin o ddinas Marrakech, Moroco, wrth droed mynyddoedd yr Atlas. Cawsant eu creu yn y 12g (tua 1130) gan Abd al-Mu'min, swltan Almohad Moroco. Tardda'r enw menara o'r pafiliwn Mwraidd gyda'i tho gwyrdd bychan o ffurf byramidaidd (menzeh). Adeiladwyd yn pafiliwn yn y 16g gan reolwyr y freninllin Saadi a chafodd ei atgyweirio yn 1869 gan y Swltan Abderrahmane, a arferai aros yno yn ystod yr haf. DyfrhauAmgylchynir y pafiliwn a'r basn neu lyn artiffisial gan berllannau a llwyni olewydd. Yr amcan wrth adeiladu'r basn oedd gally dyfrhau y gerddi a pherllannau o'i gwmpas trwy ddefnyddio system soffistigedig o sianeli tanddaearol a elwir yn qanats. Caiff y basn ei ddŵr diolch i hen system hydrolig sy'n cyfleu dŵr o droedfryniau'r Atlas, tua 30 km i ffwrdd o Marrakech ei hun. Oriel
Gweler hefyd |
Portal di Ensiklopedia Dunia