Mari Griffith
Darlledwraig, cantores a nofelydd oedd Mari Griffith (1940 – 13 Mai 2019).[1] Bywyd cynnarFe'i magwyd ym Maesteg yn ferch i brifathro ac actores amatur. Pan oedd yn ferch ifanc, daeth Richard Dimbleby i Faesteg i recordio eitem ar gyfer rhaglen Down Your Way ar y BBC Home Service. Roedd yn cyfweld ei chwaer Ann Griffiths am ei dawn yn chwarae'r delyn. Arhosodd am baned o de a chacen 'Victoria sponge' a sgwrsio gyda'r teulu. Cynigiodd Mari ddysgu Dimbleby i chwarae "Three Blind Mice" ar y delyn a dyna oedd cychwyn ei chariad at ddarlledu. Mynychodd ysgol Ramadeg Maesteg a dysgodd chwarae y piano a'r soddgrwth. Bu'n canu fel unawdydd i gyfeiliant ei chwaer ar y delyn. Profiad cynnar arall oedd ymddangos gyda'i chwaer ar raglen deledu All Your Own o Lundain.[2] Enillodd ysgoloriaeth i fynd i'r brifysgol yng Nghaerdydd, gyda anogaeth ei rhieni er ei bod eisiau bod yn gantores.[3] GyrfaEi swydd cyntaf oedd fel aelod craidd o'r BBC Northern Singers, ym Manceinion. Er ei bod yn mwynhau'r cydweithio roedd hefyd yn mwynhau canu fel unawdydd a dysgodd chwarae'r gitâr i gyfeilio iddi'i hun. Ymddangosodd ar raglenni radio ac yna teledu yn ystod ei chyfnod yng ngogledd Lloegr. Cafodd ei gwahodd i fod yn gantores sefydlog ar raglen deledu Tich’s Space Trips lle gweithiodd gyda'r tafleisiwr Ray Allan ac yr arlunydd Tony Hart. Cafodd y cyfle hefyd i gyflwyno rhaglenni. Bu'n perfformio fel canwr gwerin yn ystod chwyldro cerddorol y 1960au. Cafodd wahoddiad unwaith i chwarae yn y Cavern Club, Lerpwl ond fe drodd y cynnig lawr. Daeth yn ôl i Gymru wrth i BBC Cymru ddatblygu yr adran adloniant, gan weithio ar gontract gyda chriw o berfformwyr proffesiynol. Bu'n gweithio gyda Ronnie Williams ar y rhaglen ddychanol Stiwdio B ac aeth ymlaen i ymddangos yn rheolaidd ar y rhaglen Ryan a Ronnie. Roedd hefyd yn wyneb cyfarwydd ar y rhaglen gerddoriaeth Disc a Dawn. Gweithiodd ar raglenni yn Llundain ar gyfer gwasanaeth BBC Schools lle gweithiodd gyda Ian Humphris ar nifer o gyfresi yn cynnwys Music Time ar BBC 2. Ail-recordiodd y catalog cyfan o hwiangerddi ar gyfer rhaglen Listen with Mother. Roedd yn ymddangos yn rheolaidd ar y rhaglen Poems and Pints ar BBC Two, yn rhannu llwyfan gyda Philip Madoc a Max Boyce. Cafodd gyfres ei hun ar BBC Wales o'r enw With a Little Help ….[4] Yn 1978 cychwynnodd swydd barhaol fel cyhoeddwr dilyniant dwyieithog yn BBC Cymru, a oedd yn cynnwys cyhoeddi ar Radio Wales, Radio 3 a Radio Cymru. Cyflwynodd y cyngerdd cyntaf i'w ddarlledu o Neuadd Dewi Sant, Caerdydd yn 1982 a bu'n cyflwyno o Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Cafodd gyfle wedyn i sefydlu adran ar gyfer creu hyrwyddiadau rhaglenni teledu a hyfforddodd fel cyfarwyddwyr. Gadawodd y BBC gan weithio ar liwt ei hun, gyda'r cyfle i gynhyrchu a chyfarwyddo rhaglenni yng Nghymru a thu hwnt. Bu hefyd yn gweithio fel golygydd ar gyfer rhai o raglenni cerddoriaeth S4C. Wedi ymddeol, cychwynnodd ysgrifennu nofelau ac yn 75 mlwydd oed cyhoeddoedd nofel wedi ei osod yn Oes y Tuduriaid, gyda ail nofel y flwyddyn ganlynol. Bywyd personolRoedd yn byw yn Llanilltud Fawr gyda'i phartner, Jonah Jones. Bu farw o ganser mewn hosbis ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Disgyddiaeth
Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau
Dolenni allanol |
Portal di Ensiklopedia Dunia