Maen y Bardd
Mae cromlech Maen y Bardd yn garnedd gellog, sef math arbennig o siambr gladdu o'r cyfnod Neolithig, wedi ei lleoli gerllaw yr hen ffordd Rufeinig uwchben Rowen yn sir Conwy, ychydig i'r dwyrain o Fwlch y Ddeufaen, ar lethrau deheuol Tal y Fan. Enw arall ar y gromlech yn lleol yw Cwt y Filiast neu Llety'r Filiast (adlais o'r hen draddodiadau sy'n cysylltu milgwn â siambrau claddu a chromlechi; roedd y milgi yn anifail pwysig ym mytholeg y Celtiaid). Fe'i gelwir yn 'Gromlech Rowen' weithiau hefyd. ![]() ![]() Credir fod y siambr yma yn dyddio o tua 3000 CC. Mae'n siambr weddol fach, 1.1 metr bob ffordd ac 1.2 m. o uchder, ond mae mewn cyflwr da, gyda'r meini i gyd yn sefyll. Heb fod ymhell i'r gogledd-ddwyrain ceir olion bedd o Oes yr Efydd, a gellir gweld nifer o olion cytiau a meini hirion bob ochr i'r hen ffordd. Yr enw ar un o'r meini hirion hyn yw 'Picell Arthur' neu 'Ffon y Cawr'. Gellir cyrraedd yma o Rowen trwy ddilyn y ffordd heibio'r Hostel Ieuenctid, sy'n troi'n ffordd drol sy'n dilyn llinell yr hen ffordd Rufeinig.
Llyfryddiaeth
|
Portal di Ensiklopedia Dunia