Llyn Brenig
Mae Llyn Brenig (Cyfeirnod OS: 983 573) yn gronfa dŵr ar Fynydd Hiraethog yng ngogledd Cymru, ar y ffin rhwng Conwy a Sir Ddinbych. Crëwyd y llyn drwy godi argae ar draws Afon Brenig. Defnyddir Llyn Brenig i reoli llif Afon Dyfrdwy fel rhan o Gynllun Rheoli Llif Afon Dyfrdwy. Trwy reoli'r llif mae modd tynnu dŵr o'r afon yn is i lawr ar gyfer gogledd-orllewin Lloegr ac yn enwedig Lerpwl a'r cyffiniau. Dechreuwyd adeiladu'r argae yn 1973 a gorffennwyd y gwaith yn 1976. Mae'r llyn yn dal 60 miliwn m³ o ddŵr, ac roedd wedi llenwi erbyn 1979. Llyn Brenig yw'r llyn mwyaf yng Nghymru o ran arwynebedd, tua 920 acer, ond mae Llyn Tegid yn dal mwy o ddŵr. ArchaeolegWrth adeiladu'r agrae, cafwyd hyd i nifer o olion o Oes yr Efydd a hefyd wersyll a ddenfyddiwyd gan helwyr Mesolithig tua 5700 CC. Mae llwybr archaeolegol gerllaw'r llyn sy'n mynd heibio nifer o gladdfeydd a chylchoedd cerrig. Gellir cael peth gwybodaeth am archaeoleg y cylch yn y ganolfan ymwelwyr a leolir ar lan y llyn. Bywyd gwylltDechreuodd Gweilch y Pysgod fridio ger y llyn yn 2018, y pumed safle yng Nghymru.[1] Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia