Lloyd Hesketh Bamford-Hesketh
Perchennog ystâd Castell Gwrych, ger Abergele ac Uchel Siryf Sir Ddinbych[1] yn 1828 oedd Lloyd Hesketh Bamford-Hesketh (1788–1861).[2] ![]() Gellir olrhain Llwydiaid Castell Gwrych yn ôl i David Lloyd, Plas yn Gwrych yn 1608, ond Lloyd Hesketh Bamford-Hesketh yw'r enwocaf o'r teulu, mae'n debyg. Ei dad oedd Robert Bamford-Hesketh o Bamford Hall ac Upton a'i fam oedd Frances Lloyd (priododd y ddau yn 1787). Yr un enw oedd i'w daid hefyd (Robert), sef etifedd ystâd Bamford. Codwyd Castell Gwrych gan Lloyd fel cartref priodasol, a cheir tystiolaeth pendant fod y Castell wedi'i orffen erbyn iddo briodi'r Arglwyddes Emily Esther Ann Lygon (sef merch hynaf Iarll Cyntaf Beauchamp) yn 1825. Fe'i cododd hefyd fel teyrnged i Lwydiaid ochr ei fam. Ar ei farwolaeth, etifedd Castell Gwrych a'r ystâd oedd mab Lloyd, sef Robert Bamford-Hesketh (1826-1894) a briododd Ellen Jones-Bateman yn 1851. Ychwanegodd at y tiroedd ac erbyn 1873 roedd gan yr ystâd 3424 o erwau ynghyd â nifer o byllau glo yng Ngogledd Cymru. Un ferch oedd gan Robert, sef Winifred Bamford-Hesketh (g. 1859), a phriododd Douglas Mackinnon Baillie Hamilton, 12fed Iarll Dundonald yn 1878. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia